Roedd angen i CDPS ddeall pa gymorth y gallem ei gynnig i'r sector cyhoeddus yng Nghymru i alluogi potensial awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (DA), mewn ffordd ddiogel a moesegol.
Buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio cynnwys a fyddai'n gwneud gwybodaeth ynghylch Prydau Ysgol am Ddim yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddeall.
Sut y buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio moderneiddio gwasanaethau tacsis yng Nghymru i'w gwneud yn fwy diogel, yn wyrddach ac yn decach.
Buom yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru i gyd-ddylunio cynnwys i'w gwneud yn haws i deuluoedd incwm isel sydd â phlant ddysgu am y Grant Hanfodion Ysgol a gwneud cais amdano.
Bydd rhaglen Mamolaeth Digidol Cymru yn helpu i gyflwyno cofnodion mamolaeth digidol ar gyfer clinigwyr ac i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru.