Gweithio yn CDPS

Ein cenhadaeth yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yw cefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddylunio ac adeiladu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio.

Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn eu cefnogi i gyflawni’r canlyniadau yn Strategaeth Ddigidol Cymru.

Rydym yn ymdrechu i fod yn feiddgar, yn gydweithredol, yn dryloyw ac yn optimistaidd, ac yn cadw pobl wrth wraidd popeth a wnawn.

Cynllun Hyderus I’r Anabl

Mae CDPS yn cofleidio amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae gennym Gynllun Hyderus o ran Anabledd ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf dewis lleiaf.

Dylai ceisiadau anabl nodi a ydynt yn dymuno gwneud cais fel ymgeisydd Hyderus o ran Anabledd drwy nodi hyn yn eu llythyr cais.

Disability Confident Employer logo