Nodau'r prosiect

Roedden ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i:

  • ddysgu sut y gallwn gydweithio a rhannu cynnwys i ddiwallu anghenion defnyddwyr a gwella'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu
  • deall ffyrdd o wella cynnwys Cymraeg a gwerth cynnwys dwyieithog gwell

Y broblem i'w datrys

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn grant gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd incwm isel sydd â phlant i dalu am hanfodion ysgol.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am weinyddu’r grant ledled Cymru, ac maent yn cynhyrchu’r cynnwys eu hunain.

Roedd hyn yn golygu bod 22 darn o gynnwys tebyg wedi cael ei ddatblygu, gyda'r awdurdodau lleol yn cario baich costau dyblygu gwaith.

Dangosodd ymchwil cychwynnol nad oedd pawb sy’n gymwys yn hawlio’r grant oherwydd diffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth.

I'r defnyddwyr, roedd y cynnwys yn:

  • anhygyrch
  • llethol
  • dryslyd

Nid oedd defnyddwyr yn siŵr a oeddent yn gymwys ac o ganlyniad byddant yn rhoi gorau i’r broses o wneud cais neu yn gorfod cysylltu gyda’r cyngor neu wasanaethau eraill am help.

Nid oedd y cynnwys yn ddealladwy i siaradwyr Cymraeg bob amser ac o ganlyniad byddant yn defnyddio’r Saesneg.

Partneriaid

Buom yn gweithio gyda:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Sefydliad Bevan
  • Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cawsom hefyd gefnogaeth:

  • Tîm Polisi Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Ar ein tîm cyflawni roedd:

  • Adrián Ortega, Dylunydd Cynnwys
  • Ceri Williams, Cyfieithydd (Ateb)
  • Liam Collins, Dylunydd Rhyngweithio
  • Jemima Monteith-Thomas, Rheolwr Cyflawni
  • Tom Brame, Ymchwilydd Defnyddwyr

Crynhoi'r gwaith

Bu cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a defnyddwyr yn rhan o gyfres o weithdai, ymgynghoriadau a'r broses brofi.

Bu’r criw yn gweithio o bell gan gyfarfod yn rheolaidd am 30 munud bob dydd Llun a dydd Gwener.

Darllenwch Becyn cynnwys y Grant Hanfodion Ysgol i awdurdodau lleol i ddysgu am y technegau a ddefnyddion ni a'r templedi y medrwch eu defnyddio.

Sesiwn dangos a dweud