Cymryd rhan mewn ymchwil i wella gwasanaethau yn y sector cyhoeddus

Mae angen eich help ar y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) i wella gwefannau a gwasanaethau sefydliadau yn sector cyhoeddus Cymru.

Rydym yn helpu i ddylunio gwasanaethau trwy gynnal ymchwil gyda'r bobl sy'n eu defnyddio, i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.

I wneud hyn, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n panel ymchwil.

Beth sydd ei angen

I gofrestru ar gyfer y panel ymchwil, mae'n rhaid i chi:

• fod yn 18 oed neu'n hŷn

• yn byw, yn gweithio neu'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn rheolaidd yng Nghymru

• yn barod i’n helpu ni gydag ymchwil 

Beth i’w ddisgwyl

Efallai y byddwn yn gofyn i chi:

• gymryd rhan mewn cyfweliad

• dangos i ni sut rydych chi'n defnyddio rhan benodol o wefan

• profi a rhoi adborth ar ddyluniad neu syniad newydd

Mae ein panel ymchwil yn caniatáu i ni gysylltu â phobl yn gyflym ac yn hawdd ar gyfer astudiaethau ymchwil ac yn caniatáu i chi ddweud eich dweud ar sut caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynllunio yng Nghymru.

Ymunwch â'r panel ymchwil