Nod y prosiect

Yn ystod y darganfyddiad hwn, roeddem eisiau:

  • dangos yr effaith go iawn y mae dyluniad cynnwys gwael yn ei gael ar wasanaethau
  • dangos sut y gallai gwneud newidiadau bach mewn amser byr gael effaith gadarnhaol ar brofiad defnyddwyr
  • nodi rhai newidiadau ymarferol y gellir eu gwneud gyda'r timau presennol sydd ar waith

Mae dweud bod problem yn un peth, ond mae arsylwi ar ddefnyddwyr yn profi problemau yn anhygoel o bwerus.

Y broblem i'w datrys

Mae gan yr awdurdodau lleol broblem gyffredin, sef nad yw cynnwys ar-lein, a thrwy sianeli eraill, yn cael ei reoli mor effeithiol nac mor effeithlon ag y gallai fod. 

Yn aml, rhoddir cynnwys ar-lein mewn modd caeedig gyda thimau wedi'u trefnu o amgylch adrannau yn hytrach na'u gwasanaethau o'u dechrau i'w diwedd. Mae hyn yn arwain at anghysondebau iaith a therminoleg. 

Cyhoeddi dan bwysau

Gyda llawer o bwysau sy'n wynebu awdurdodau lleol, nid yw wedi bod yn bosib blaenoriaethu gwneud newidiadau. Ac weithiau mae'n anodd llwyr amgyffred yr effaith y gall newid iaith gael ar drigolion. 

Gyda phwysau i wneud yn siŵr bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi, mae'r syniad o reoli'r cylch bywyd cynnwys ac ymddeol hen gynnwys neu allan o'r dyddiad yn aml yn cael ei anghofio, gan arwain at gynnwys yn mynd yn ddryslyd neu'n anodd ei lywio.

Mae'r broblem hon yn deillio o ffyrdd etifeddiaeth o weithio, a heb anghofio'r angen i reoli llawer iawn o wybodaeth gyda therfynau amser sy'n gynyddol dynn ac adnoddau cyfyngedig.

'Iaith y cyngor'

Mae cynnwys yn aml yn cael ei ysgrifennu gan arbenigwyr pwnc. Er er ei fod yn ffeithiol gywir, mae wedi'i ysgrifennu o safbwynt mewnol. Byddai pethau y cyfeirir atynt fel "iaith y cyngor" yn ymddangos ar wefannau i ddisgrifio neu enwi gwasanaethau, heb sylweddoli nad yw dinasyddion yn disgrifio'r gwasanaeth yr un ffordd na defnyddio'r iaith honno mewn bywyd bob dydd.

Heriau adeiladu tîm

Gallai penodi tîm o strategwyr cynnwys, dylunwyr ac ymchwilwyr defnyddwyr ymddangos fel y ffordd amlwg o wella pethau. Ond mewn gwirionedd, hyd yn oed os oedd y cyllid ar gael i wneud hyn, mae angen parodrwydd ar draws y sefydliad i weithio mewn ffordd wahanol.

Trwy gyflwyno rhai newidiadau bach gobeithiwn y bydd hyn yn dechrau hadu'r newid hwnnw. 

Partneriaid

Rydym yn gweithio gyda 4 awdurdod lleol:

  • Blaenau Gwent
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Torfaen

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n ariannu'r prosiect.

Mae pobl o bob awdurdod yn cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, cyfweliadau ymchwil defnyddwyr, a sesiynau cyd-ddylunio.

Cofnodion blog a nodiadau wythnosol

Mae'r tîm wedi bod yn cyhoeddi nodiadau wythnosol sy'n dangos beth maen nhw wedi bod yn gweithio arno hyd yn hyn.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi cofnod blog am 6 wythnos gyntaf y prosiect.