Nodau

Gan ychwanegu ar ein gwaith yn cyd-ddylunio cynnwys Grant Hanfodion Ysgolion, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i:   

  • ddysgu sut i gydweithio a rhannu cynnwys i ddiwallu anghenion defnyddwyr a gwella darpariaeth gwasanaeth   
  • lleihau dyblygu ymdrech 
  • dod o hyd i ffyrdd o wella cynnwys Cymraeg a gwerth gwell cynnwys dwyieithog

Y broblem rydyn ni'n ceisio ei datrys

Mae Prydau Ysgol am Ddim yn darparu pryd o fwyd am ddim i blant sydd ei angen bob dydd yn yr ysgol, neu yn helpu i dalu amdano.  

Yn sgil cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd (UPFSM), gofynnir pob amser i rieni neu warcheidwaid sy'n gymwys ar gyfer eFSM (dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim) wneud cais am eFSM fel gofyniad i dderbyn cymorth arall.

Mae'r modd mae’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn egluro hyn yn ddryslyd i ddefnyddwyr.

Yn olaf, mae siaradwyr Cymraeg yn cael anhawster i ddeall yr wybodaeth yn Gymraeg.

Partneriaid

Rydym wedi gweithio gyda: 

  • Llywodraeth Cymru 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth gan: 

  • Tîm Polisi Llywodraeth Cymru

Roedd y canlynol yn aelodau o'n tîm cyflenwi: 

  • Adrián Ortega, Dylunydd Cynnwys 
  • Liam Collins, Dylunydd Rhyngweithio 
  • Ed Cann a Jemima Monteith-Thomas, Rheolwyr Cyflawni
  • Tom Brame, Ymchwilydd Defnyddwyr
  • Llinos Iorwerth, Cyfieithydd (Ateb) 

Crynodeb o'r gwaith

Gwnaethom ymgysylltu â dod ag aelodau o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a defnyddwyr ynghyd ar ffurf gweithdai, ymgynghoriadau a phrofion. 

Buom yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a'r sector nid-er-elw yng Nghymru, a chyda defnyddwyr, i archwilio pam efallai nad yw pobl yn hawlio budd-daliadau neu'n cael cymorth pan oedd ei angen arnynt.

Rydym wedi siarad â: 

  • 7 o unigolion o amrywiaeth o awdurdodau lleol oedd yn defnyddio gwasanaethau Prydau Ysgol am Ddim. 
  • 4 o unigolion oedd yn defnyddio Cymraeg fel iaith gyntaf 
  • 2 o unigolion fu’n ein helpu i brofi'r cynnwys ar ddyfais symudol 

Mae'r pecyn cymorth cynnwys Prydau Ysgol am Ddim yn disgrifio canfyddiadau'r ymchwil defnyddwyr, yn dangos y technegau y gwnaethom eu defnyddio ac yn darparu templedi y gallwch eu defnyddio.

Ffyrdd o weithio

Roeddem yn gweithio o bell ac yn cynnal sesiwn drafod (stand-up) reolaidd am 30 munud pob dydd Llun a dydd Gwener. 

Camau nesaf

Siarad gydag awdurdodau lleol i gael gwybod mwy am yr heriau y maent hwy a'u defnyddwyr yn eu hwynebu o ran costau byw.  

Bydd hyn yn ein helpu i: 

  • ddeall sut y gallwn gefnogi awdurdodau lleol i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr 
  • sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt 
  • ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt 

Os ydych yn gweithio i awdurdod lleol yng Nghymru ac fe hoffech weithio gyda gyda ni, e-bostiwch ed.cann@digitalpublicservices.gov.wales