Nodau'r prosiect
Mae cynllun strategol Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod blaenoriaeth i sicrhau bod sefydliadau'n gwneud mwy i hyrwyddo'r cyfleoedd y maent yn eu darparu i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae hyn yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, a'i nod yw cynyddu'r ystod o wasanaethau Cymraeg a gynigir i'r cyhoedd yng Nghymru a chynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau hynny.
Mae CDPS wedi partneru â sefydliadau i'w helpu i greu cynnwys dwyieithog, sy'n anelu at greu gwell profiad i ddefnyddwyr eu gwasanaethau.
Gwneud gwahaniaeth
Mae prosesau cyfieithu traddodiadol yn aml yn golygu, pan gymeradwyir cynnwys Saesneg, ei fod yn cael ei drosglwyddo i gyfieithydd i greu'r fersiwn Gymraeg. Nid yw'r dull hwn bob amser yn rhoi'r un amlygrwydd i'r fersiwn wedi'i chyfieithu.
Nod ysgrifennu triawd yw dod â chyfieithwyr i'r broses creu cynnwys o'r cychwyn cyntaf a chaniatáu i arbenigedd yn y Gymraeg, arbenigedd cynnwys ac arbenigedd pwnc Cymraeg gael eu cymhwyso i ddwy iaith. Mae'n broses sy'n cael ei rhannu yn y llyfr ysgrifennu triawd a gyhoeddwyd gan CDPS.
Mae hyn yn golygu bod y cynnwys yn canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr yn ei iaith briodol ac mae wedi ystyried y naws a'r rheolau ar gyfer yr ieithoedd hynny.
Partneriaid
Mae'r sefydliadau canlynol wedi cytuno i dreialu sesiynau ysgrifennu triawd, wedi'u hwyluso a'u harwain gan CDPS:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cadw
Prifysgol Abertawe
Crynodeb o'r gwaith hyd yn hyn
Ar ôl nodi sefydliadau a allai elwa o roi cynnig ar ddull newydd o greu cynnwys dwyieithog, gwnaethom gynnal galwadau darganfod cychwynnol gyda nhw.
Yn dilyn hyn, fe gynigom gyflwyniad ar ysgrifennu triawd a oedd yn rhoi mwy o fanylion am y broses, pwy ddylai gymryd rhan, pa gynnwys i'w brofi gan ddefnyddio ysgrifennu triawd a manteision y broses.
Unwaith y bydd partneriaid yn ymrwymo i'r prosiect peilot, rydym yn trefnu tair sesiwn ysgrifennu triawd. Ar eu hochr nhw, maen nhw'n darparu cyfieithydd ac arbenigwr pwnc. Dylunydd cynnwys CDPS yw'r drydedd rôl i gymryd rhan.
Bydd sesiynau ysgrifennu triawd yn cael eu recordio ac ar ôl iddynt ddigwydd, bydd ein hymchwilydd defnyddwyr yn siarad â'r partneriaid am y broses. O'n cyfweliadau byddwn yn gallu deall eu proses bresennol ar gyfer creu cynnwys dwyieithog, sut y daethon nhw o hyd i ysgrifennu triawd ac a fyddent yn hyderus yn gwneud mwy o ysgrifennu triawd yn eu sefydliad.