Nodau'r prosiect

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn arwain ar GIG Cymru, gan ddarparu rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru i drawsnewid gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn ddigidol.

Fel rhan o’r rhaglen hon, mae’r tim yn cynnal ymchwil gyda menywod, bydwragedd a chlinigwyr sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth i ddeall:

  • sut y gallwn leihau adnghydraddoldebau iechyd
  • sut y gallwn alluogi menywod, bydwragedd a chlinigwyr i gael eu cynnwys yn ddigidol
  • eu hanghenion o ran gwasanaethau digidol

Beth ydym yn ceisio ei gyflawni?

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn dibynnu’n helaeth ar gofnodion clinigol ar bapur.

Gall gyflwyno confodion mamolaeth digidol wella gwasanaethau mamolaeth drwy:

  • gefnogi a gwella’r bartneriaeth rhwng menywod, bydwragedd a’r clinigwyr sy’n cefnogi eu gofal mamolaeth
  • ganiatau i weithwyr proffesiynol dreulio mwy o amser yn gofalu am fenywod, bydwragedd a chlingwyr drwy leihau’r amser a dreulir ar ddyblygu data
  • sicrahu bod cofnodion yn hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol sy’n darparu gofal ledled Cymru
  • greu cysondeb ar draws Cymru gyda’r holl gofnodion mamolaeth wedi’u cofnodi yn yr un ffordd
  • galluogi gwell canlyniadau data

Partneriaid

Fel rhan o’r rhaglen hon, mae tim amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o IGDC, byrddau iechyd GIG Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus (CDPS), sy’n cefnogi gyda ymchwil defnyddwyr ac arbenigedd dylunio gwasanaethau.

Bydd ein rhaglen waith yn parhau tan fis Mawrth 2024.