Nodau

Nod y prosiect hwn oedd deall aeddfedrwydd a pharodrwydd awtomeiddio a DA ar draws sector cyhoeddus Cymru a defnyddio'r wybodaeth honno i ddatblygu gweithgareddau cymorth ymhellach yn y maes hwn, yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.

Yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni

Mae awtomeiddio a DA yn offer pwerus a all, o'u defnyddio'n gywir, wneud gwasanaethau cyhoeddus digidol yn fwy cywir, symlach, cyflymach a rhatach. Fodd bynnag, mae'r offer hyn hefyd yn cario risgiau, megis risg o ragfarn, diffyg tryloywder ac ansicrwydd technoleg. 

Ein rôl yw cefnogi sefydliadau i ddylunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol, sy'n cyd-fynd â Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, ac mae awtomeiddio a DA yn debygol o fod yn feysydd sy'n helpu i gyflawni hynny. 

Rydym eisoes yn darparu cefnogaeth i'r sector drwy weminarau rhannu gwybodaeth ac wedi sefydlu gweithgor safonau i archwilio sut rydym yn mabwysiadu safonau sy'n gysylltiedig â DA.

Er mwyn darparu cymorth pellach, sy'n ystyrlon ac o werth, roedd angen dealltwriaeth gliriach arnom o arferion, prosesau a sgiliau awtomeiddio a DA presennol y sector cyhoeddus i lunio sut mae hyn yn edrych.  

Partneriaid

Gweithiodd CDPS mewn partneriaeth â swyddfa'r Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru. Buom hefyd yn siarad ag arweinwyr y farchnad yn y gofod awtomeiddio a DA i ddeall mwy am dechnoleg a thueddiadau cyfredol.  

Crynodeb o'r gwaith

Cwblhawyd darganfyddiad 6 wythnos lle gwnaethom gyfweld â phobl sy'n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru i ddeall eu haeddfedrwydd a'u parodrwydd ar gyfer awtomeiddio a DA.

Roedd hyn yn ein helpu i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen, yn seiliedig ar dystiolaeth ac anghenion ein defnyddwyr. 

Fe wnaethom dalu sylw arbennig i feysydd problemus cyffredin (lle gellid archwilio atebion cyffredin).  

 

Y camau nesaf

Cymuned sector cyhoeddus newydd fydd y cam cyntaf ar daith lle caiff arferion a dysgu gorau awtomeiddio a DA eu creu a'u rhannu.

Ein nod yw lansio'r gymuned hon ym mis Chwefror 2024. Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn fuan. 

Gwyliwch ein sioe a dweud