Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS Cymru) – gweithio gyda chi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell i Gymru
Rydym ni yma i alluogi gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yng Nghymru.
Rydym ni’n dod â gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus digidol ac arbenigwyr gweddnewid digidol at ei gilydd yng Nghymru. Byddwn yn darparu arweiniad, hyfforddiant, safonau, rhwydweithio ar y cyd a chymorth ymarferol.
Gwnaethom gynnal gwaith ymchwil cychwynnol yn gynnar yn 2020, a chanfod:
- Nad oes dealltwriaeth gyffredin, bendant o’r hyn y mae “digidol” yn ei olygu
- Nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i weithredu gweddnewid digidol
- Bod llawer o staff y sector cyhoeddus yn awyddus i helpu, ond eu bod yn ceisio cymorth ac arweiniad
- Ei bod yn anodd i dimau gadw golwg ar arfer da a rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu
- Bod diffyg safonau technegol a dylunio gwasanaeth cyffredin
Rydyn ni bellach wedi symud ymlaen o ymchwil i weithredu.