Mae angen i ni brofi hyfywedd y cysyniad a ddatblygwyd yn ystod cam blaenorol y prosiect. Byddwn yn archwilio pa mor dda y mae'r syniad yn diwallu anghenion yn ymarferol ac a ellir ei weithredu'n effeithiol o fewn awdurdodau lleol.
Rydym yn cynnal ymchwil i gael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau unigolion sydd wedi'u hymylu yng Nghymru wrth iddynt lywio drwy'r system fudd-daliadau bresennol.
Mae cynllunio yn dibynnu ar haenau o gyfreithiau, deddfwriaeth a pholisiau cymhleth a all fod yn heriol i bobl eu llywio. Nod ein prosiect oedd deall yr heriau hyn a nodi’r datrysiadau.
Rydym yn awyddus i sefydlu, graddio ac ymgorffori model cynaliadwy ar gyfer cynnal asesiadau gwasanaeth yng Nghymru i gefnogi sefydliadau i fodloni Safon Gwasanaeth Digidol Cymru.
Sut y gallem gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddeall a mynd i'r afael â'r sgiliau sydd eu hangen i ddylunio a rhedeg gwasanaethau cyhoeddus digidol modern sy'n bodloni Safon Gwasanaethau Digidol Cymru?
Mae’r gwasanaeth cyn- ymgeisio yn chwarae rhan hanfodol yn system gynllunio Cymru, o fudd i ddinasyddion ac awdurdodau cynllunio. Yn dilyn ein hymchwil, fe wnaethom ddatblygu a phrofi prototeip dwyieithog ar gyfer gwasanaeth cyn-ymgeisio digidol.
Gan weithio gyda thîm niwroamrywiol ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru, gwnaethom archwilio sut i gefnogi'r rhai sy'n aros am atgyfeiriad neu asesiad niwroamrywiol.