Deall yr her

Mae cynllunio yn hanfodol i’n cymunedau. Mae’n ein hamddiffyn rhag datblygiadau gwael, yn arwain sut mae ein trefi a’n dinasoedd yn esblygu, ac ie- mae hyd yn oed yn atal eich cymydog rhag rhwystro golau naturiol gydag estyniad rhy fawr!  

Ond mae cynllunio yn dibynnu ar haenau o gyfreithiau, deddfwriaeth a pholisiau cymhleth a all fod yn heriol i bobl eu llywio. Nod ein prosiect oedd deall yr heriau hyn a nodi’r datrysiadau.

Pam y gwnaethom ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd ein hymchwil- o berchnogion tai sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu estyniad, i swyddogion cynllunio sy’n prosesu ceisiadau. Trwy ddeall profiadau pawb gallwn greu gwelliannau ystyrlon.

Ein proses ymchwil

Yr hyn a wnaethom: 

  • Cynnal ymchwil bwrdd gwaith cynhwysfawr ar draws gwefannau cynllunio cynghorau lleol 

  • Nodi a siarad â rhanddeiliaid allweddol trwy gydol y system gynlluio 

  • Ymgynghori ag arbenigwyr cynllunio i gael mewnwelediadau dyfnach 

  • Mynychu Ysgol Aeaf Cynllunio Digidol yng Nghaerdydd i archwilio offer digidol arloesol 

Yr hyn a ddarganfuom: 

Mae'r system gynllunio yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol: 

  • Cyfyngiadau adnoddau: Anawsterau recriwtio a chadw arbenigwyr cynllunio 

  • Rhwystrau technoleg: Systemau TG hen ac aneffeithlon 

  • Anghysondeb: Dulliau gwahanol ar draws awdurdodau cynllunio lleol 

  • Cymhlethdod: Gwybodaeth sy’n anodd i ddefnyddwyr ei ddeall 

  • Materion ansawdd: Safon gwael llawer o geisiadau cynllunio 

  • Bylchau cyfathrebu: Heriau rhannu gwybodaeth yn effeithiol gyda’r cyhoedd 

  • Adborth cyfyngedig: Ychydig o gyfleoedd i ddefnyddwyr rhoi mewnbwn 

  • Diffyg ymddiriedaeth: Amheuaeth gyhoeddus ynghylch prosesau cynllunio 

  • Dryswch taliadau: Ffioedd a dulliau talu aneglur 

Ein hargymhellion

Er mwyn gwneud cynllunio yn fwy hygyrch ac effeithiol, rydym yn argymell: 

  1. Gwella’r broses ddigidol am gais cynllunio

    Bydd gwella’r system am gais cynllunio yng Nghymru yn symleiddio’r broses ymgeisio, gan arbed amser ac adnoddau wrth gyflymu penderfyniadau. Mae diffyg glasbrint o’r gwasanaeth ar y dechrau ar diwedd,yn enwedig o ran dibyniaeth ar llif data ar draws adrannau neu sefydliadau.

  2. Gwella profiad defnyddiwr

    Mae tystiolaeth digonol bod gwella rhyngwedd a chynnwys y gwasanaeth gynllunio yn debygol o wella effeithlonrwydd a lleihau cyswllt gyda ACLl.

  3. Symleiddio’r polisi iaith

    Mae system gynllunio Cymru yn cael ei effeithio gan bolisïau lluosog a all weithiau wrthdaro neu fod â gofynion gwrthwynebol ar y gwasanaethau cynllunio. Er enghraifft, gall polisïau amgylcheddol dynnu i gyfeiriad gwahanol i fynd i'r afael â’r stoc dai yng Nghymru- mae gan gynllunwyr rôl anodd i lywio ac yna cyfathrebu hyn yn glir.Gall symleiddio’r iaith mewn polisi neu pan fydd polisi yn dylanwadu’n uniongyrchol ar wneud penderfyniadau heb golli pwysigrwydd y pwyntiau sy’n cael eu gwneud, wella ymddiriedaeth a dealltwriaeth o fewn natur gymhleth gwasanaethau cynllunio. 

  4. Buddsoddi mewn technoleg

    O’r arolygiad cychwynnol (nid oedd y darganfyddiad hwn yn cwblhau plymio’n ddwfn i'r pentwr technoleg), byddem yn argymell adolygiad a gweithio i ddeall a gwella’r defnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â llawer o’r materion a’r pwyntiau pryder a nodwyd yn yr ymchwil hon.

  5. Hyfforddiant a chefnogaeth i'r timau cynllunio

    Thema gyson o fewn yr ymchwil oedd y datgysylltiad rhwng timau cynllunio a digidol neu dechnolegol. Cafwyd adborth uniongyrchol hefyd am sgiliau o fewn timau cynllunio. Rydym yn argymell gwella hyfforddiant a chyfathrebu ar gyfer swyddogion cynllunio i greu cyfleoedd i swyddogion cynllunio ddatblygu datrysiadau ar y cyd. 

Beth nesaf

Rydym yn symud ymlaen trwy ganolbwyntio ar gam cyn-ymgeisio y broses cynllunio. Rydym yn partneru â Llywodraeth Cymru a thri awdurdod lleol: Caerdydd, Bro Morgannwg a Gwynedd.

Yn ein cam nesaf byddwn yn:  

  • Mapio’r daith cyn-ymgeisio o’r dechrau i’r diwedd 

  • Deall sut mae’r cam cynnar hwn yn cysylltu â’r broses gyllunio llawn 

  • Nodi anghenion penodol ymgeiswyr ac awdurdodau cynllunio 

  • Targedu pwyntiau pryder allweddol ar gyfer gwelliant 

  • Datblygu cynnyrch hyfyw i fynd i’r afael â materion critigol 

Ein nod yw creu datrysiadau y gellir eu rhannu ledled Cymru, gan wneud cynllunio yn fwy hygyrch, effeithlon a syml i bawb ei defnyddio.