Trosolwg

Mae’r gwasanaeth cyn- ymgeisio yn chwarae rhan hanfodol yn system gynllunio Cymru, o fudd i ddinasyddion ac awdurdodau cynllunio. Pan gaiff ei ddefnyddio’n effeithiol, mae’n darparu adborth cynnar a gwerthfawr sy’n helpu i sicrhau bod ceisiadau’n cydymffurio â pholisiau cynllunio cyn eu cyflwyno’n ffurfiol.

Fodd bynnag, canfu ein hymchwil fod 60% o geisiadau cynllunio yn cael eu gwrthod oherwydd gwybodaeth anghyflawn- problem y gellid ei lleihau’n sylweddol trwy ymgysylltu â gwasanaeth cyn- ymgeisio effeithilon a hawdd ei ddefnyddio.

Beth wnaethom ei ddarganfod

Datgelodd ein hymchwil sawl her allweddol:

  • Ymwybyddiaeth isel: Nid yw llawer o ddeiliaid tai yn gwybod bod cyngor cyn-ymgeisio ar gael 

  • Hygyrchedd gwael: Pan fydd pobl yn dod o hyd i'r gwasanaeth, mae’n anodd dod o hyd i'r wybodaeth 

  • Canllawiau dryslyd: Nid yw’r gwasanaeth presennol yn cynnwys cyfeiriad clir ar gyfer pobl nad ydynt yn arbenigwyr 

  • Taith ansicr i'r defnyddiwr: Mae’r broses yn aml yn teimlo’n dameidiog ac  anghyson 

  • Rhwystrau cyfathrebu: Mae cysylltu â staff cynllunio am help yn heriol, gan orfodi llawer i ddibynu ar arbeingwyr allanol sy’n gostus

Mae staff cynllunio hefyd yn wynebu heriau sylweddol: 

  • Baich gweinyddol mawr gyda nifer o dasgau llawlfyr, ailadroddus 

  • Cyfleoedd a gollwys i awtomeiddio prosesau syml 

  • Adnoddau cyfyngedig i ymdrin â llwyth gwaith cynyddol 

Ein Dull

Gan ddefnyddio’r mewnwelediadau hyn a gweithio gyda Chynghorau Caerdydd, Gwynedd a Bro Morgannwg, fe wnaethom ddatblygu a phrofi prototeip dwyieithog ar gyfer gwasanaeth cyn-ymgeisio digidol.

Er mwyn cefnogi’r gweithredu, rydym hefyd wedi datblygu adnoddau ymarferol gan gynnwys:

  • Personas defnyddiwr manwl: deall anghenion amrywiol defnyddwyr gwasanaeth cynllunio 

  • Glasbrintiau gwasanaethau: Mapiau cynhwysfawr o daith gwell defnyddiwr

  • Templedi dwyieithog: Cynnwys i'w defnyddio sy’n glir a hygyrch 

  • Canllawiau gweithredu: Cyngor ymarferol ar gyfer mabwysiadu’r gwelliannau hyn

Bydd yr adnoddau hyn yn helpu awdurdodau cynllunio i greu gwasanaethau cyn-ymgeisio mwy effeithlon sy’n diwallu anghenion dinasyddion yn well tra’n lleihau’r baich gweinyddol ar dimau cynllunio.

Cynnydd a dysgu

Mae ein hadroddiad yn crynhoi’r gwaith a wnaed yn ystod y cam hwn, yn benodol ar wella’r gwasanaeth cyngor cyn-ymgeisio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a 3 awdurdod cynllunio lleol. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys ein canfyddiadau, ein hargymhellion a’r camau nesaf.

Sioe dangos a dweud

Adnoddau

All the tools and templates we've developed are available for planning authorities across Wales to use and adapt.

Browse resources: 

Gwasanaeth cyn-ymgeisio 'fel ag y mae' mewn glasbrint: Mae’r deiliaid yn camu ar eu taith ochr yn ochr gyda’r broses fewnol i ddangos pwyntiau pryder a meysydd ar gyfer arloesi

Gwasanaeth cyn-ymgeisio fydd mewn glasbrint: Cynnig arloesol ar gyfer deiliaid tai ynghyd â gweithredwyr gwasanaeth mewnol.

Prototeip

Anghenion defnyddiwr: something that a user of your service or website will need to find or do

Cynnwys dwyieithog - gwefannau

Cynnwys dwyieithog - ffurflenni

Cynnwys dwyieithog - e-bost

Map safle: mae hyn yn dangos trefn y cynnwys ar gyfer defnyddwyr sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio.Enghraifft o grynodeb llywio- i helpu’r defnyddiwr i wybod lle bydd y ddolen yn mynd â nhw.

Enghraifft o grynodeb llywio: i helpu’r defnyddiwr i wybod lle bydd y ddolen yn mynd â nhw. 

Cymrwch ran

E-bostiwch ni os oes gennych ymholiad neu os hoffech gymryd rhan: gwasanaethaucynllunio@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect