Trosolwg

Mae angen i ni brofi hyfywedd y cysyniad a ddatblygwyd yn ystod cam blaenorol y prosiect. Byddwn yn archwilio pa mor dda y mae'r syniad yn diwallu anghenion yn ymarferol ac a ellir ei weithredu'n effeithiol o fewn awdurdodau lleol. 

Byddwn yn gweithio'n agos gyda nifer o awdurdodau lleol ar sail wirfoddol. Yn dilyn eu hymatebion i'r mynegiadau o ddiddordeb mewn gweithio ar y prosiect hwn. Bydd eu mewnwelediad a'u cydweithrediad yn hanfodol wrth lunio a dilysu atebion ymarferol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a all wella mynediad a lleihau dyblygu ar draws y system fudd-daliadau.

Pam fod hyn yn bwysig

  • Bydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl yng Nghymru gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo drwy leihau'r risg o golli hawliau 
  • Bydd yn cefnogi darpariaeth fwy cyson a chydgysylltiedig o fuddion ar draws gwasanaethau  
  • Bydd yn helpu i leihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector drwy wella mynediad ymlaen llaw 
  • Bydd yn cyfrannu at nodau Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb drwy gefnogi siarter budd-daliadau Cymru yn uniongyrchol  
  • Bydd yn adeiladu tystiolaeth ar gyfer gwelliannau graddadwy, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, i system fudd-daliadau ehangach Cymru

Ein dull

Bydd ein tîm amlddisgyblaethol yn gweithio mewn 'sbrintiau' bob pythefnos. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n cynllunio ein gwaith mewn cylchoedd bob pythefnos ac yn siarad yn agored am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a'i ddysgu ar ddiwedd pob cylch.  Bydd y dolenni adborth rheolaidd hyn yn ein helpu i addasu'n gyflym a darparu gwerth cyn gynted â phosibl.

Cynnydd a dysgu

Byddwn yn darparu diweddariadau yn rheolaidd.

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect a gwahoddiadau i'n sesiynau dangos a dweud

Cymerwch ran yn ein hymchwil

Ydych chi'n awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn dysgu mwy neu gymryd rhan yn y cyfnod profi cysyniadau, cysylltwch â Lauren drwy e-bostio budd-daliadau@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru

Adnoddau

Cadwch lygad ar y dudalen yma am yr adnoddau rydyn ni'n eu defnyddio yn ystod y prosiect hwn.

Y Safon Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru: Egwyddor brofedig ar gyfer dylunio gwasanaethau digidol