Trosolwg

Gyda gwerth tua £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac yn cynyddu incwm eu cartref i'r eithaf.    

Lansiwyd Siarter Budd-daliadau Cymru yn 2024 fel rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r 22 awdurdod lleol i gydweithio i wella System Budd-daliadau Cymru.    

Y weledigaeth; dull sy'n canolbwyntio ar y person, yn dosturiol, ac yn gyson wrth ddylunio a darparu budd-daliadau Cymru, sy'n galluogi pobl i adrodd eu stori unwaith yn unig er mwyn derbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, waeth ble maent yn byw yng Nghymru.  

Rydym yn rhan o Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru i helpu i gyflawni'r weledigaeth hon.  

Rydym yn canolbwyntio ar ddau ddarn o waith.  

Ymchwil

Rydym yn cynnal ymchwil manwl gyda grwpiau sydd wedi'u hymylu i nodi a mynd i'r afael â'r heriau penodol y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael budd-daliadau. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod cynhwysiant wrth wraidd unrhyw welliannau a wnawn.

Profi cysyniadau

Rydym yn profi ac yn mireinio cysyniad gydag Awdurdodau Lleol i'w gwneud hi'n haws i unigolion wneud cais am grant hanfodion ysgol, prydau ysgol am ddim a gostyngiad treth Cyngor.

Diweddariadau prosiect

Rydym wedi ymrwymo i weithio yn agored drwy gydol y prosiect hwn. Egwyddor allweddol yn Safon Gwasanaeth Digidol Cymru, mae hyn yn golygu y byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd ar ein cynnydd, ein mewnwelediadau, a sut rydym yn rhoi'r hyn a ddysgwn ar waith i wella gwasanaethau i bawb yng Nghymru.

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect a gwahoddiadau i'n sesiynau dangos a dweud