Trosolwg

Rydym yn cynnal ymchwil i gael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau unigolion sydd wedi'u hymylu yng Nghymru wrth iddynt lywio drwy'r system fudd-daliadau bresennol.

Ein nod yw nodi'r heriau a'r rhwystrau allweddol sy'n eu hatal rhag cael mynediad at y gefnogaeth y maent yn gymwys i'w chael, gan gynnwys Prydau Ysgol Am Ddim, Grant Hanfodion Ysgol a budd-daliadau Gostyngiad y Dreth Gyngor.

Pam fod hyn yn bwysig

Egwyddor allweddol yn Safon Gwasanaeth Digidol Cymru yw 'deall defnyddwyr a'u hanghenion'. Gyda gwerth amcangyfrifedig o £2bn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, bydd clywed yn uniongyrchol gan hawlwyr a deall yr heriau maen nhw'n eu hwynebu yn ein helpu i ddylunio gwasanaeth gwell a haws i hawlio'r hyn y maen nhw'n gymwys i'w gael.

Ein dull

Bydd ein tîm amlddisgyblaethol yn gweithio mewn 'sbrintiau' bob pythefnos. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n cynllunio ein gwaith mewn cylchoedd bob pythefnos ac yn siarad yn agored am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a'i ddysgu ar ddiwedd pob cylch. Bydd y dolenni adborth rheolaidd hyn yn ein helpu i addasu'n gyflym a darparu gwerth cyn gynted â phosibl.  

Cynnydd a dysgu

Byddwn yn darparu diweddariadau prosiect rheolaidd.

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect a gwahoddiadau i'n sesiynau dangos a dweud

Cymerwch ran yn ein hymchwil

Rydym yn chwilio am gyfranogwyr i helpu i lunio ein gwaith. P'un a ydych chi’n: 

  • Y cael eich adnabod fel rhan o grŵp sydd wedi'i wthio i'r ymylon 
  • Cynrychioli unigolion sydd wedi’u hymylu (megis drwy sefydliad neu gyngor trydydd sector) 
  • Gallu cysylltu â chymunedau neu rwydweithiau perthnasol 

Mae eich mewnwelediadau yn amhrisiadwy. Rydym am ddeall eich profiadau, eich heriau a sut y gallwn eich cefnogi chi a'r cymunedau rydych chi'n eu cynrychioli yn well. Cysylltwch â James drwy e-bostio budd-daliadau@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru  

Adnoddau

Cadwch lygad ar y dudalen yma am yr adnoddau rydyn ni'n eu defnyddio yn ystod y prosiect hwn.

Y Safon Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru: Egwyddor brofedig ar gyfer dylunio gwasanaethau digidol