Rydym yn gweithio i greu gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau cynllunio ledled Cymru, gyda ffocws ar sut y gallai atebion digidol gefnogi’r newidiadau hyn. Nod ein gwaith yw gwneud cynllunio yn fwy hygyrch, effeithlon a chyfeillgar i’r defnyddiwr a phawb sy’n cymryd rhan.

Hanfodion ymchwil defnyddwyr

Cwrs dysgu cyfunol wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus Cymru sy'n ymgysylltu â defnyddwyr go iawn fel rhan o'u rôl. Dysgwch am hanfodion dulliau ymchwil defnyddwyr, sut i nodi anghenion defnyddwyr, a dadansoddi data'n effeithiol.