Ein dull
Er mwyn cyflawni newid ystyrlon, roedd angen i ni:
- Ddatblygu dealltwriaeth o’r prosesau cynllunio cyfredol
- Ymgysylltu â’r rhanddeiliaid cywir ar bob lefel
- Nodi meysydd critigol lle byddai gwelliannau yn cael yr effaith fwyaf
Cam 1: Darganfod- Deall Tirwedd Cynllunio Cymru
Yn ystod ein cyfnod Darganfod, fe wnaethom archwilio’r system gynllunio i nodi heriau a chyfleodd. Fe wnaethom siarad ag ymgeiswyr, swyddogion cynllunio, a rhanddeliaid eraill i ddeall eu profiadau, eu rhwystredigaethau a’u hanghenion.
Datgelodd yr ymchwil hon sawl her allweddol:
Prosesau cymhleth sy’n anodd i ddefnyddwyr eu llywio
Dulliau anghyson ar draws gwahanol awdurdodau lleol
Cyfyngiadau adnoddau sy’n effeithio ar ddarparu gwasanaeth
Systemau technoleg sydd wedi dyddio sy’n cyfyngu effeithlonrwydd
Bylchau cyfathrebu rhwng adrannau cynllunio a defnyddwyr
Helpodd ein canfyddiadau i ddatblygu argymhellion wedi’u targedu i fynd i’r afael â’r materion hyn a chreu sylfaen ar gyfer gwelliant.
Cam 2: Alpha- Ffocysu ar wasanaethau cyn-ymgeisio
Gan adeiladu ar ein mewnweliadau Darganfod, culhaodd ein cam Alpha ein ffocws i’r broses cyn-ymgeisio- cam cynnar hanfodol sy’n gosod y sylfaen ar gyfer ceisiadau cynllunio llwyddiannus.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Gwynedd rydym wedi:
Mapio taith cyn-ymgeisio cyflawn o wahanol safbwyntiau
Cynnal cyfweliadau manwl gyda swyddogion cynllunio ac ymgeiswyr
Nodi pwyntiau pryder cyffredin a rhwystrau at lwyddo
Datblygu a phrofi atebion prototeip gyda defnyddwyr go iawn
Mae’r dull cydweithredol hwn yn ein helpu i ddylunio gwelliannau ymarferol sy’n mynd i’r afael ag aghenion gwirioneddol ac y gellir eu gweithredu ar draws awdurdodau cynllunio Cymru.
Beth nesaf
Rydym Bellach yn mireinio ein prototeipiau yn seiliedig ar adborth defnyddwyr a byddwn yn parhau â’n hymgysylltiad agos ag awdurdodau lleol ledled Cymru.
Ein nod yw creu atebion y gellir eu rhannu ledled Cymru, gan helpu i adeiladu system gynllunio fwy hygyrch, effeithlon a syml i'w defnyddio ac mae ein hadnoddau prosiect a’n prototeip ar gael i bawb.