Trosolwg
Mae'r cwrs hwn, a grëwyd yn wreiddiol gan Dr David Travis, wedi'i addasu ar gyfer sector cyhoeddus Cymru ac fe'i cyflwynir gan Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS).
Yn y cwrs dysgu cyfunol hwn, byddwch yn dysgu hanfodion ymchwil defnyddwyr trwy sesiynau grŵp ar-lein dan arweiniad ein hyfforddwyr, ynghyd â thasgau i'w cwblhau i gefnogi'ch dysgu.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rheini sydd yn:
- gweithio'n sector cyhoeddus Cymru i ddarparu gwasanaethau datganoledig
- ymgysylltu â defnyddwyr go iawn yn eu rôl
- eisiau ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau ymchwil defnyddwyr
- eisiau gwella eu cynhyrchion neu wasanaethau trwy ymchwil effeithiol
Cost
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig.
Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio'r gofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.
Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn drwy gymryd rhan mewn ymchwil.
Sut mae’n gweithio
Byddwch yn cymryd rhan mewn 9 sesiwn hyfforddi byw ar-lein, pob un yn para 3 awr, lle gallwch:
- ddysgu gan eich hyfforddwyr
- gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol
- cwblhau tasgau i gefnogi eich dysgu a'ch paratoi ar gyfer pob sesiwn
Dyddiadau hyfforddi
Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer pob dyddiad hyfforddi i gwblhau'r cwrs hwn.
Bydd sesiynau yn cael eu cynnal o 09.30am tan 12.30pm.
- 9 Medi 2025
- 11 Medi 2025
- 16 Medi 2025
- 18 Medi 2025
- 30 Medi 2025
- 3 Hydref 2025
- 7 Hydref 2025
- 9 Hydref 2025
- 14 Hydref 2025
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu sut i:
- adnabod tasgau defnyddwyr allweddol
- mapio profiad defnyddiwr
- cynllunio ymchwil i ddefnyddwyr
- sefyll prawf defnyddioldeb
- creu mewnwelediadau
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- pwysigrwydd anghenion defnyddwyr
- mapio taith defnyddwyr
- cynllunio ymchwil defnyddwyr yn effeithiol gan ddefnyddio fframwaith Ystwyth
- technegau ymchwil defnyddwyr
- sut i ddadansoddi ymchwil defnyddwyr
- Yr hyn y bydd ei angen arna chi
Bydd angen dyfais arnoch sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a mynediad i'r platfform dysgu.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen dyfais arnoch sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a mynediad i'r platfform dysgu.
Gwneud cais
I wneud cais, llenwch ein ffurflen gais a chyflwyno datganiad personol.
Dyddiad cau: 1 Awst 2025 am 11.59pm