Tasg
Gwrandewch ar y cyfweliadau gydag aelodau o'r cyhoedd. Yn y clipiau hyn, maen nhw'n esbonio sut a pham maen nhw'n defnyddio dulliau digidol yn eu bywydau pob dydd.
Trawsgrifiad o'r fideo
Ydw, rydw i wedi defnyddio Amazon i brynu pethau na allaf eu cael yn yr archfarchnad neu'n agos ataf. Pethau rydw i eisiau yn gyflym. Rwy'n defnyddio Prime fel y gallaf ei gael y diwrnod canlynol. Weithiau, pethau sydd ychydig yn benodol y byddai'n rhaid i chi fynd i siop benodol nad oes gennych yn lleol efallai. Ond yn gyffredinol, er hwylustod a chyflymder rydw i wedi'i ddefnyddio.
Ydw, felly rwy'n siopa ar-lein bob wythnos ac mae pethau’n cael eu danfon i'r tŷ. Dechreuais pan oedd gen i blant bach, ac nid oeddwn am eu llusgo i archfarchnad go iawn. Felly defnyddiais siopa ar-lein oherwydd ei fod yn hawdd; gallwn ddewis slot amser ar gyfer eu hanfon oedd yn gweithio i mi a gallwn fynd yn ôl ac ymlaen ac ychwanegu pethau fel yr oedd ei angen arnaf. Felly, unwaith eto er mwyn ymlacio a siwtio fy ffordd o fyw.
Felly na, nid wyf wedi trefnu apwyntiad meddyg teulu ar-lein oherwydd nid yw'n bodoli gyda fy meddygfa, ond byddai hynny’n rhywbeth yr hoffwn ei weld. Rwy'n credu y byddai'n llawer haws archebu lle gyda meddyg neu nyrs neu ddewis rhywun yn y feddygfa yr oeddech chi am ei gweld. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid ciwio, ffonio deunaw gwaith, ac yna gorfod cael galwad ffôn yn ôl, sydd fel arfer yn digwydd pan fyddwch yng nghanol galwad neu gyfarfod gwaith, felly ni allwch dderbyn yr alwad. Felly ie, rwy'n credu bod manteision i allu archebu un ar-lein.
Mae'n ymddangos bod deng mlynedd yn ôl yn amser hir, ond nid wyf yn credu ei fod mor bell yn ôl a hynny. Felly rwy'n credu y byddwn i wedi defnyddio siopa ar-lein ar gyfer siopa wythnosol oherwydd pan oedd fy merch yn fach, roedd hynny'n bendant yn rhywbeth roeddwn i'n ei ddefnyddio. Amazon, wnes i ddim ei ddefnyddio cymaint, ond mae'n bendant yn rhywbeth rydw i'n ei ddefnyddio mwy nawr. Felly rwy'n credu eu bod nhw'n bethau wnes i eu defnyddio ddeng mlynedd yn ôl ond nawr rwyn eu defnyddio drwy’r amser.
Trawsgrifiad o'r fideo
Rwy'n defnyddio Amazon yn aml. Rwy'n ei ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau. Y peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw bod mwy o gynnyrch arbenigol ar gael na allaf ei gael yn hawdd o siop gyfagos. Nid wyf yn gyrru, felly byddwn yn archebu o Amazon. Mae llawer o DIY yn digwydd yn fy mywyd ar hyn o bryd, felly byddaf yn archebu llawer o gynhyrchion DIY sydd eu hangen arnaf ac offer gan Amazon oherwydd ei fod yn gwneud fy mywyd yn llawer haws. Rwy'n ceisio peidio â phrynu popeth o Amazon, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth iach i’w wneud. Ond mae mor gyfleus, felly rwy'n tueddu i'w ddefnyddio'n eithaf aml.
Rwy'n ei chael hi'n eithaf anodd ffitio'r siop fawr yn fy mywyd dyddiol neu fy mywyd wythnosol yn gweithio'n llawn amser. Felly rwy'n archebu siop ar-lein tua unwaith y mis ac rwy'n gweld hynny'n gyfleus iawn. Unwaith eto, nid wyf yn gyrru, felly mae'n gyfleus ac hawdd iawn iddo ymddangos ar stepan fy nrws. Mae'n gymharol fforddiadwy hefyd, i gael nwyddau wedi'u hanfon, felly mae'n hygyrch iawn i mi.
Mae fy meddyg teulu’n gofyn i chi ffonio yn y bore os ydych chi eisiau apwyntiad a gall hynny fod yn anghyfleus iawn oherwydd nid yw bob amser yn gweithio o gwmpas fy amserlen. Byddwn i wir yn ei hoffi pe bai ffordd i archebu ar-lein. Yn enwedig os oedd yn golygu nad oedd yn rhaid i chi aros yn y ciwiau hir hynny ar y llinell ffôn. Rwy'n archebu fy mhrisgripsiynau ar-lein, felly mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Ond mae'r teclyn gwe ychydig yn clunky ar gyfer fy meddyg teulu, felly rwy'n credu bod lle i wella yno.
Ddeng mlynedd yn ôl, mae'n debygol fy mod wedi defnyddio Amazon o bryd i'w gilydd. Ond fe fyddai'n eithaf prin. Roedd pob cyswllt meddyg teulu dros y ffôn, felly dydw i ddim yn defnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau ar-lein ar gyfer meddygon teulu. Roeddwn i wedi clywed am ddosbarthu siopau bwyd, ond doeddwn i ddim wedi ei ddefnyddio. Doedd gen i ddim rheswm da dros ei ddefnyddio ar y pryd.
Darllenwch "Newid y System". Mae'r cyflwyniad yn egluro cyd-destun "Digidol" yng Nghymru. Ar dudalen 14 fe welwch restr o'r 6 argymhelliad.