Tasg

Cwblhewch y dasg i archwilio effaith gwasanaethau gwael.

Nesaf, gwyliwch y fideo (4:48) am wasanaeth yn methu. Byddwn yn egluro beth mae hyn yn ei olygu ac yn trafod enghreifftiau o wasanaethau yn methu.

Trawsgrifiad o'r fideo

Yn y fideo hwn, ry’n ni'n mynd i ganolbwyntio ar fethiant gwasanaeth. Byddwn yn ystyried: 

  • Beth mae'n ei olygu 
  • Enghreifftiau i ddangos hyn 
  • Yr effaith y mae'n ei gael 

Dylech fod wedi cwblhau'r dasg lle gwnaethom ofyn y ddau gwestiwn hyn: 

  • Faint mae'r Llywodraeth yn ei wario ar wasanaethau? 
  • Pa ganran o hyn sydd ar fethiant gwasanaeth? 

Canfu ymchwil gan ymchwil GDS fod: 

  • 80% o gost y llywodraeth yn cael ei wario ar wasanaethau 
  • Mae hyd at 60% o'r costau hynny'n cael eu gwario ar fethiant gwasanaeth 

Er bod hyn yn berthnasol i'r DU gyfan, gwelwn ddarlun tebyg yma yng Nghymru. 

Ond nid yw hyn yn syndod. Y Llywodraeth yw'r darparwr gwasanaeth hynaf a mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae ei wasanaethau'n cynnwys unrhyw beth o wneud cais am basbort, talu trethi neu allforio nwyddau. Mae miloedd ohonynt i gyd. 

Mae'r dyfyniad hwn gan Lou Downe yn tynnu sylw at hyn. Mae methiant y gwasanaeth yn gost inni. Mae'n bwysicach fyth ein bod yn defnyddio arian i sicrhau'r gwerth gorau posibl. Yn enwedig yng Nghymru, lle ry’n ni’n tueddu i fod â chyllidebau llai a thimau llai. Mae llawer o dimau yn gorfod gwneud mwy gyda llai yn y pen draw.  

Ond beth yw methiant gwasanaeth? 

Dyma pryd mae defnyddiwr yn cael trafferth gwneud rhywbeth. Gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau a allai achosi i hyn ddigwydd: 

  • Efallai y bydd cwestiwn ar ffurf sy'n anodd ei ddeall. O ganlyniad, nid yw defnyddwyr yn gwybod sut i'w lenwi, felly mae angen cymorth arnynt  i'w gwblhau. 
  • Mae yna gysylltiadau toredig neu rhai heb ateb. Mae hyn yn golygu na allant gyrraedd na dod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano. 
  • Mae'r llinellau ffôn yn brysur neu ar gau. Ni all defnyddwyr fynd trwodd. Nid ydynt yn gallu siarad â rhywun i'w helpu. Unwaith eto, mae hyn yn eu hatal rhag cwblhau'r dasg. 
  • Efallai y bydd cynnwys anhygyrch. Gallai hyn fod am amrywiaeth o resymau, ond mae'n gweithredu fel rhwystr i ddefnyddwyr. 

Rhan fwyaf o'r amser, pethau bach sy'n achosi rhwystrau. Ond maen nhw'n atal defnyddwyr rhag cwblhau'r dasg maen nhw'n ceisio ei wneud. Nid yw'r gwasanaeth yn bodloni eu hanghenion sylfaenol. 

Dyma enghraifft y cyfeiriodd Lou Downe atynt yn eu cyflwyniad, Bad Services. 

Ar un adeg, ar wefan GOV.UK, roedd "Contact DVLA" yn eistedd 8fed ar y rhestr o "Top Content". Felly, un o'r gwasanaethau mwyaf poblogaidd yr oedd pobl yn chwilio amdano oedd rhif ffôn. Mae hyn achos na all defnyddwyr ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano, felly maen nhw eisiau siarad â rhywun er mwyn gofyn. 

Er enghraifft, pe baech am fynd â'ch car oddi ar y ffordd, byddai'n rhaid i chi gyflwyno "Statutory Off Road Notifcation". Neu’r acronym SORN. Ond, oni bai eich bod yn gwybod hynny, byddai'n anodd dod o hyd iddo. Beth fyddai defnyddiwr yn ei wneud? Estyn am y ffôn i siarad â rhywun. 

Ers hynny maen nhw wedi ailenwi'r gwasanaeth i "Register your vehicle as off the road", sy’n gwneud llawer mwy o synnwyr. Dyma'r math o beth y byddai defnyddiwr yn chwilio amdano, felly maen nhw'n fwy tebygol o ddod o hyd iddo. 

Pam mae hyn yn bwysig? 

Mae methiant gwasanaeth yn cael effaith negyddol ar y defnyddwyr a'r sefydliad: 

Mae'n costio amser ac arian oherwydd galwadau ffôn diangen neu apwyntiadau a gollwyd. Mae hynny'n amser ac arian y gellid ei wario'n well yn rhywle arall. 

Peri i ddefnyddwyr golli ffydd, os ydynt yn cael profiad negyddol. Efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd defnyddio gwasanaeth, gan achosi rhwystredigaeth neu ddryswch. Gall hyn effeithio ar sut maent yn ymgysylltu yn y dyfodol. Mae hon yn broblem benodol yng nghyd-destun darparu gwasanaethau cyhoeddus. Y rhan fwyaf o'r amser, nid oes gan ddefnyddwyr ddewis ond defnyddio ein gwasanaeth. 

Mae'n rhoi defnyddwyr mewn perygl. Mae'n atal defnyddwyr rhag defnyddio'r gwasanaeth pan fydd ei angen arnynt. Mewn rhai cyd-destunau, gall hyn arwain at y canlyniadau gwaethaf i bobl. Yn enwedig os bydd rhywun yn gadael y system yn gyfan gwbl. 

Gweithgaredd atodol

Ystyriwch sut mae hyn yn berthnasol i'ch sefyllfa chi. Meddyliwch naill ai am eich cynhyrchion neu wasanaethau cyfredol neu eraill rydych chi wedi'u defnyddio. Ystyriwch y cwestiynau canlynol: 

  • Pa effaith y mae methiant y gwasanaeth yn ei chael ar eich defnyddwyr neu arnoch chi fel y defnyddiwr?
  • Sut mae'n effeithio ar eich defnyddwyr neu'ch ymgysylltiad â'r cynnyrch neu'r gwasanaeth hwnnw?