Cyflwyniad

Croeso i'r cwrs! 

Trawsgrifiad o'r fideo

Shwmae, Ebonie ydw i.  

Shwmae James ydw i. Rydym yn Ddylunwyr Hyfforddiant a Dysgu yma, yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. 

Byddwn yn hyfforddi gyda chi drwy gydol eich cwrs. 

Croeso i Digidol ac Ystywth: Y Sylfeini 

Yn y cwrs hwn, byddwn yn ymdrin â'r canlynol: 

  • beth rydym yn ei olygu wrth siarad am "Ddigidol" 
  • y manteision a ddaw yn sgil digidol, yn enwedig pan fyddwn yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • cymhariaeth o ddau ddull cyflawni poblogaidd; Rhaeadr ac ystwyth 
  • Teclyn i'ch helpu i benderfynu pa ddull sydd orau i'ch cyd-destun 

Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw yw hwn sy'n eich galluogi i ddysgu ar eich cyflymder eich hun. Mae hyn yn golygu bod yr holl gynnwys ar gael i chi. Gallwch weithio arno ar unrhyw adeg. Mae'n cynnwys cymysgedd o fideos, erthyglau, cwisiau a gweithgareddau ymarferol. 

Rydym yn amcangyfrif y dylai gymryd tua 1.5 i 2.5 awr ar gyfartaledd i gwblhau'r cwrs. 

Wrth i chi weithio drwy'r tasgau, bydd cyfleoedd i gymhwyso eich dysgu i'ch rôl. 

Bydd angen i chi gwblhau'r gwiriadau gwybodaeth cyn ac ar ôl y cwrs. Bydd y rhain yn mesur eich cynnydd, sydd ei angen i ennill eich bathodyn cwblhau. 

Tasg

Cwblhewch yr gwirio gwybodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni faint ydych chi'n ei ddeall am y maes ar hyn o bryd.