Tasg

Gwyliwch y fideo "Beth yw Digidol?" (2:42) lle rydyn ni'n trafod ystyr digidol. Byddwn hefyd yn esbonio'r ymrwymiad i Ddigidol yng Nghymru.

Trawsgrifiad o'r fideo

I ddechrau, ry’n ni'n mynd i archwilio'r hyn ry’n ni'n ei olygu wrth siarad am Ddigidol. 

Mae hynny oherwydd bod y term digidol yn amwys. Mae bron wedi dod yn buzzword. O achos hyn, yn aml mae camsyniadau ynghylch beth mae'n ei olygu. 

Gadewch i ni ddechrau trwy edrych ar yr hyn nad ydyw. Nid yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb yr adran TG. Nid yw ychwaith yn fater o ddisodli hen ffyrdd o weithio â llaw yn aml, gyda rhywbeth newydd a gwahanol. 

Felly beth yw e? Mae digidol yn ymwneud â newid y ffordd yr ry’n ni’n gwneud pethau, i addasu i'r amgylchedd deinamig ry’n ni’n gweithio ynddo. 

Dyma un diffiniad gan Tom Loosemore sy’n un o sylfaenwyr Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS). Mae'n grynodeb gwych o'r hyn yw digidol.  

Yn y dyfyniad hwn, byddwch yn sylwi mai "technoleg" yw'r peth olaf y sonnir amdano. Mae hynny oherwydd bod ffyrdd newydd o weithio yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na thechnoleg. Gyda'r diwylliant, prosesau a'r modelau busnes cywir, mae sefydliadau'n gwneud dewisiadau technoleg gwell. 

Mae darn olaf y pos yn ymwneud â deall y defnyddiwr. Mae hynny oherwydd y dyddiau yma, mae disgwyliadau pobl yn uwch ac yn newid bob dydd. Yn y deunyddiau cwrs, byddwch yn clywed gan aelodau'r cyhoedd. Maent yn esbonio pam eu bod yn defnyddio gwasanaethau digidol yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae gan lawer yr un disgwyliadau ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus y mae'n rhaid iddynt eu defnyddio. 

Trwy gydol y cwrs, byddwn yn cyflwyno ffyrdd i'ch cefnogi. 

Bu rhai ymrwymiadau sylweddol i Ddigidol yng Nghymru. Dechreuodd llawer o hyn yn 2018 gydag adroddiad a set o 6 argymhelliad o'r enw Newid y System.  

Y casgliad eang oedd bod angen i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru wella. Dywedodd fod angen iddynt fanteisio ar drawsnewid digidol. Ond mae angen dull cydlynol. 

Mae hyn eto yn dangos pan fyddwn yn siarad am Ddigidol, mae'n ymwneud â llawer mwy na thechnoleg neu TG. 

Yn hytrach, mae'n ymwneud â: 

  • Newid diwylliant 
  • Cofleidio ffyrdd newydd o weithio 
  • Dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion defnyddwyr 
  • A'u dilysu drwy ddefnyddio data i wneud penderfyniadau