Tasg

Gwyliwch y fideo (4:48) am fanteision mabwysiadu dull digidol. Byddwn hefyd yn cymhwyso hyn i astudiaeth achos o'r cofnod mamolaeth digidol. Arweiniodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) hyn, gyda chefnogaeth CDPS. Mae'n archwilio sut y gwnaethant ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wella gwasanaethau mamolaeth.

Trawsgrifiad o'r fideo

Nesaf, byddwn yn edrych ar rai o'r manteision a welir wrth fabwysiadu dull digidol. Yn gyntaf, byddwn yn edrych ar y buddion yn gyffredinol. Yna byddwn yn edrych ar astudiaeth achos o brosiect sydd wedi mabwysiadu'r ffordd yma o weithio. 

Gall mabwysiadu dull digidol arwain at arbedion cost sylweddol. Gellir cyflawni hyn drwy: 

  • prosesau awtomeiddio 
  • lleihau gwallau 
  • gwella dyraniad adnoddau 

Mae hyn yn golygu y gall timau gyflawni mwy gyda llai. Efallai y bydd angen buddsoddiad o flaen llaw. Ond mae hynny'n cael ei wrthbwyso dros amser gan gostau gweithredol is a gwell effeithlonrwydd. 

Mae datrysiadau digidol yn galluogi gwell casglu a dadansoddi data. Gall hyn droi'n ganlyniadau gwell. Drwy gael data mynediad amser real, gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus. 

Gyda defnyddio dull digidol, gallwn leihau risg. Pan fyddwn yn rhoi defnyddwyr yn y canol, ry’n ni’n canolbwyntio ar greu'r pethau sy'n diwallu eu hanghenion. 

Un o gryfderau allweddol dull digidol yw hyblygrwydd. Un enghraifft yw diweddaru a datblygu llwyfannau i ddiwallu anghenion newidiol defnyddwyr. Pan fydd heriau annisgwyl yn codi, mae dull digidol yn ein galluogi i newid trywydd ac addasu 

Gall mabwysiadu offer digidol effeithiol hybu lefelau bodlonrwydd. Mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi cyfleustra gwasanaethau digidol. Mae staff hefyd yn elwa, gyda mwy o foddhad yn eu swydd. Gall hyn fod trwy lifoedd gwaith mwy effeithlon a lleihau rhwystrau. 

Yn olaf, mae dull digidol yn helpu sefydliadau i ddenu a chadw'r doniau gorau. Mae pobl yn disgwyl gweithio gydag offer sy'n cefnogi eu heffeithlonrwydd a'u heffeithiolrwydd. Mae mabwysiadu dulliau digidol da yn gwneud ein sefydliad yn lle mwy deniadol i weithio. 

Felly nid yw'r newid i ddull digidol yn ymwneud â chadw i fyny â thueddiadau technoleg. Mae'n ymwneud â chreu cynhyrchion a gwasanaethau mwy effeithlon, effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. 

 

Dyma enghraifft o ddarn o waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd sy’n fabwysiadu'r dull hwn. Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n arwain hyn, gyda chefnogaeth CDPS. Maent yn archwilio sut y gall digidol eu galluogi i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth. 

Er mwyn cyflawni hyn, dechreuon nhw trwy ymchwilio i anghenion defnyddwyr. Mae hyn yn cysylltu'n ôl â'r syniad cychwynnol ynghylch beth mae digidol yn ei olygu. Maen nhw'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, yn adeiladu gwasanaeth o'u cwmpas nhw a'u hanghenion. Nid ydynt yn dechrau gyda datrysiad. Yn hytrach, maen nhw'n ymchwilio i'r broblem. Yna, ceisio mabwysiadu dull ailadroddus i ddatblygu rhywbeth sy'n ei ddatrys. 

Ar gyfer cyd-destun, mae gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn ddibynnol ar gofnodion clinigol papur. 

Nid yw hynny'n golygu mai technoleg yw'r ateb i'r broblem ac y gall ddatrys popeth. Yn hytrach, mae'n edrych ar y cyfleoedd y mae technoleg yn ei gynnig. Maent yn dod o hyd i ac yn datrys y problemau gwirioneddol a brofir gan ddefnyddwyr. 

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen waith hon yn ei gamau cynnar. Ond yn seiliedig ar yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu hyd yn hyn, dyma rai o'r manteision penodol y maen nhw'n ceisio eu gwireddu: 

  • Bydd digidol yn eu galluogi i wella'r ffordd y maent yn casglu ac yn adrodd ar ddata. Mae hyn oherwydd y byddai mewn fformat digidol, hygyrch, yn hytrach na'i storio mewn cofnod papur. 
  • Nesaf, maen nhw'n ceisio gwella cywirdeb data. Mae dyblygu data nid yn unig yn cymryd mwy o amser, ond mae hefyd yn cynyddu'r risg am wallau. 
  • Efallai na fydd gan fenywod a phobl sy'n geni eu cofnod papur wrth law bob amser. Er enghraifft, efallai na fydd rhywun yn ei gael wrth fynd i'r gwaith neu ymweld â ffrind. Ond gallai datrysiad digidol liniaru hyn trwy fod ar gael yn unrhyw le, ar unrhyw adeg. 

Yn y deunyddiau cwrs, mae dolen i gofnod blog ag ysgrifennwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, lle gallwch ddarganfod mwy am y darn hwn o waith. 

Gweithgaredd atodol