Tasg
Gwyliwch y fideo (1:54) yn cyflwyno Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.
Trawsgrifiad o'r fideo
Un o'r 6 argymhelliad gan Newid y System, oedd "Datblygu a chyflwyno safonau gwasanaeth digidol".
Yn yr adroddiad maen nhw'n sôn "Mae'n rhaid i'r gwir wahaniaeth mewn mabwysiadu digidol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fod yn ffocws digyfaddawd ar anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r ymrwymiad i ddylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a mabwysiadu set o safonau gwasanaeth yn hanfodol".
Yn y fideo hwn, byddwn yn cynnwys:
- Pwrpas y safonau gwasanaeth
- Beth ydyn nhw
- Sut maen nhw'n eich helpu chi
Mae’r Safonau Gwasanaeth Digidol “yn nodi’r hyn a ddisgwylir gan wasanaethau digidol newydd neu wedi’u hailgynllunio a ariennir gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru”.
Mae 12 o safonau, wedi'u trefnu'n 3 chategori:
- Cwrdd ag anghenion defnyddwyr
- Creu timau digidol
- Defnyddio'r dechnoleg gywir
Mae'r Safonau yn sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel, yn hygyrch ac yn ddwyieithog. Maent hefyd yno i'ch cefnogi:
- Mae'n canolbwyntio ar adeiladu ar yr hyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr. Mae hyn yn eich atal rhag adeiladu'r peth anghywir a all gostio amser ac arian i'w drwsio.
- Mae'n sicrhau bod mwy o bobl yn gallu defnyddio'ch gwasanaeth.
- Mae'n haws i chi. Mae'r safonau yn annog rhannu ac ailddefnyddio. Mae'n debyg y bydd yr ateb i'r problemau mwyaf cyffredin yn bodoli eisoes. Mae hyn yn golygu nad ydych bob amser yn dechrau o'r dechrau.
Yn y deunyddiau cwrs, fe welwch ddolen i'n gwefan. Yma ry’n ni’n esbonio:
- Beth mae pob safon yn ei olygu
- Pam ei fod yn bwysig
- Sut y gallwch chi ddechrau arni