Yn y modiwl hwn byddwn yn archwilio'r hyn olygwn wrth siarad am Ddigidol. Mae hynny oherwydd ei fod yn derm sy'n amwys. Mae wedi dod yn ‘buzzword’. Oherwydd hynny, mae yna lawer o gamsyniadau ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu. Yn dilyn hynny, byddwch yn clywed gan aelodau o'r cyhoedd am sut a pham y maent yn defnyddio gwasanaethau digidol. Byddwn yn ystyried sut mae hyn wedi llywio eu disgwyliadau o wasanaethau'r sector cyhoeddus.
Byddwn yn gosod y sylfaen yn y modiwl hwn. Byddwn yn cynnwys:
- beth rydym yn ei olygu wrth Digidol
- achosion a chanlyniadau methiant gwasanaeth
- y manteision o fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr