Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi nifer o adnoddau ar sut i ddenu, recriwtio a chadw doniau ym maes digidol, data a thechnoleg i'r sector cyhoeddus.
Er ein bod wedi parhau â'r gwaith eleni, mae wedi esblygu i ddatblygu corpws o dalent yn y dyfodol.
Gwnaethom gyfrannu at a helpu i ddatblygu rhaglen brentisiaeth dylunio gyntaf y DU ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe ac Agored Cymru a recriwtio 3 prentis a ymunodd â ni ym mis Medi 2023.
Gwnaethom barhau i weithio gyda'n partner recriwtio, Yolk Recruitment, trwy gontract wedi'i alluogi i ddarparu gwasanaethau recriwtio, i ni ac i'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
Effaith
Mae ein fideos YouTube denu, recriwtio a chadw wedi denu 651 o ymwelwyr.
Ein 3 prentis dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr fydd y bobl gyntaf yn y DU i dderbyn cymhwyster mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar ôl cwblhau 2 leoliad hyd yn hyn mewn ymchwil defnyddwyr a dylunio cynnwys.
Dyma oedd gan ein partneriaid i'w ddweud
Y camau nesaf
Bydd CDPS yn dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o Fehefin 2024 a bydd angen pennu nodau llesiant i wella a gweithio tuag at y rhain fel sefydliad.
Disgwylir i'n cynllun prentisiaeth a rennir ddechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf, 2024 i 2025, gan weithio gyda gwahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus i'w galluogi i dyfu eu talent eu hunain ym maes dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda chefnogaeth CDPS.
Byddwn yn datblygu interniaeth a rhaglen profiad gwaith wedi'i theilwra i ddarparu profiad ymarferol o fewn ffrydiau gwaith digidol a methodolegau ystwyth gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.
Darllen mwy
Ein prentisiaid dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn adlewyrchu ar y flwyddyn
Heriau recriwtio prentisiaid: taith o ddarganfod a thwf
Sut mae'n bodloni ein hamcanion
Amcanion CDPS:
Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ysgogi llunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.
Amcan 3: Gweithio gydag eraill i ddatblygu strategaeth gweithlu digidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chefnogi mesurau ymarferol i greu corpws o weithwyr proffesiynol medrus.
Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Meddwl yn yr hirdymor
- Integreiddio
- Cynnwys
- Cydweithio
- Atal
7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cymru lewyrchus
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang