Ein nod yw gweithredu sefydliad rhagorol sy'n rhannu adnoddau ac arbenigedd i helpu eraill.
Roedd Lauren Power, ein rheolwr cynnyrch, yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol eleni. Academi ydyw sy'n creu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a gwella eu sgiliau arwain yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol, a bydd yn ein helpu i baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Gwelodd ein tîm arweinyddiaeth 2 aelod newydd yn ymuno eleni, gan ddod ag arbenigedd o weithrediadau a thechnoleg, gan ddod â'r cyfanswm i 6 o bobl ar ein tîm arweinyddiaeth.
Gwnaethom gomisiynu ymgynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) i'n cefnogi ar ein taith EDI. Trwy archwiliad helaeth, rydym wedi nodi nifer o o gryfderau yr hoffem adeiladu arnynt a rhai meysydd y gallwn eu datblygu dros y flwyddyn nesaf.
Gwnaethom barhau â'n buddsoddiad i adeiladu tîm parhaol o staff a gwelsom 27 o gydweithwyr yn ymuno â ni drwy'r flwyddyn, ac mae'r ymgyrch recriwtio ddwys hon wedi cael ei chefnogi gan ein contract recriwtio gyda Yolk Recruitment.
Bellach, mae gennym adran gyllid fewnol ac rydym eisoes yn gweld buddion enfawr i'r datblygiad hwn.
Rydym wedi cryfhau ein prosesau llywodraethu ac adrodd ac wedi cynnal ein diwrnod cyntaf cwrdd i ffwrdd ar gyfer y bwrdd a'r tîm arwain. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn natblygiad aelodau ein bwrdd trwy hyfforddiant.
Mae ein hyfforddiant caffael wedi ein galluogi i ddangos gwerth am arian a gwerth cymdeithasol.
Rydym wedi dod o hyd i system AD newydd a'i rhoi ar waith sydd wedi gwella'r ffordd rydym yn adrodd ar AD yn sylweddol. Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar ein cylch bywyd cyflogai i wella meysydd gwaith gan gynnwys recriwtio, sefydlu a rheoli perfformiad.
Rydym wedi buddsoddi yn natblygiad ein staff yn ystod y flwyddyn gyda chyfranogiad staff ar Raglen Datblygu Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, Ysgol Haf Arweinyddiaeth, Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, Arwain mewn gwlad ddwyieithog, hyfforddiant ystwyth a rheolwr cynnyrch, a hyfforddiant i-ACT (ar gyfer iechyd meddwl a lles cadarnhaol). Mae hyfforddiant hefyd wedi'i gyflwyno i gefnogi gydag EDI, lles a rheoli llinell.