Rydym yn tyfu gallu a sgiliau modern yn y sector cyhoeddus, fel bod gan bobl yr hyder, y sgiliau, y capasiti a'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn eu rôl ac o fewn eu sefydliad.

Eleni, gwnaethom ganolbwyntio ar uwchsgilio sector cyhoeddus Cymru trwy ddarparu:

  • hyfforddiant digidol ac Ystwyth
  • hyfforddiant o ymwybyddiaeth seiberddiogelwch mewn partneriaeth â Chanolfan Seiberddiogelwch Cymru
  • hyfforddiant dylunio gwasanaethau mewn partneriaeth â Ysgol y Gwasanaethau Da
  • cyfres o webinarau am ddeallusrwydd artiffisial

Dyma'r hyfforddiant y gwnaethom ei ddarparu

  • Digidol ac Ystwyth: y sylfeini
  • Hanfodion dull gweithio ystwyth ar gyfer timau
  • Hanfodion dull gweithio ystwyth ar gyfer arweinwyr

Yn y tymor cyntaf (Medi 2023 i Rhagfyr 2023), fe wnaethom hyfforddi 199 o bobl o 8 sefydliad gyda 48 o bobl yn mynychu mwy na 2 gwrs.

Yn yr ail dymor (Ionawr 2024 i Fawrth 2024), fe wnaethom hyfforddi 317 o bobl o 19 sefydliad gyda 21 o bobl yn mynychu mwy na 2 gwrs.

Dyma oedd gan y rheini ddaeth i'n gweminarau i'w ddweud

“Roedd yr hwyluswyr yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn ennyn diddordeb pawb – cymysgedd da o destun ysgrifenedig a gwybodaeth a thasgau. Doedden ni ddim yn cael ein llethu gan gyflwyniadau PowerPoint!”
Adborth un ddaeth i'r weminar am sylfeini Ystwyth ar gyfer timau
“Trosolwg da o ddull gweithio Ystwyth ac fe'm hysgogodd i feddwl am fy rôl fy hun a'm tîm a sut y gallem weithredu rhywfaint o newid.”
Adborth un ddaeth i'r weminar am sylfeini Ystwyth ar gyfer arweinwyr
“Cwrs rhyngweithiol gwych, cwrs ymgysylltiedig, hyfforddwyr gwybodus iawn - roedd yr elfennau rhyngweithiol yn rhagorol.”
Adborth un ddaeth i'r weminar am sylfeini Ystwyth ar gyfer arweinwyr

Sesiynau dysgu dros ginio

Eleni, cynhaliwyd 2 gyfres dysgu dros ginio (gweminarau rhyngweithiol 30 munud) a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio sy'n ymwneud a'r defnyddiwr, pynciau digidol ac Ystwyth. Cofrestrodd 244 o bobl o 88 o sefydliadau ar eu cyfer.

Unwaith i'r 8 gweminarau gael eu lanlwytho ar YouTube, cawsom eu gwylio gan 1279 o bobl.

Gwyliwch ein rhestr chwarae dysgu dros ginio

Hyfforddiant ar ymwybyddiaeth seiberddiogelwch

Ymrwymodd 79 o bobl ar gyfer ein hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch mewn partneriaeth â Chanolfan Seiberddiogelwch Cymru. Dyma rai o'r sefydliadau yr oeddent yn eu cynrychioli - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gyrfa Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor y Gweithlu Addysg, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Newid Cymru a Llais Cymru.

Hyfforddiant dylunio gwasanaeth mewn partneriaeth â Yr Ysgol Gwasanaethau Da

Daeth 8 arweinydd i'r hyfforddiant hwn o 8 sefydliad gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Gwasanaeth Gwaed Cymru, ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Dyma oedd gan y rheini ddaeth i'r hyfforddiant i'w ddweud

“Y peth mwyaf y gwnes i ddysgu o'r hyfforddiant – pwysigrwydd y cam darganfod a chael cyfle i wirioneddol ddeall anghenion y defnyddiwr cyn ceisio dod o hyd i atebion. Yr hyn yr wyf yn gobeithio ei wneud yn wahanol o ganlyniad i'r cwrs yw – edrych ar y prosiectau ar gyfer eleni, cymryd cam yn ôl a gwir ddeall y materion y mae defnyddwyr yn eu rhannu gyda ni a beth yw eu hanghenion cyn ystyried atebion."
Sophie Bennett, Rheolwr Cymorth i Gyflogwyr, Gofal Cymdeithasol Cymru
“Fe wnaeth yr hyfforddiant hwn fy helpu i ddeall pa mor dda mae dylunio gwasanaethau yn rhywbeth y dylai pawb yn y sefydliad ei ystyried wrth i ni wneud ein gwaith pob dydd, waeth beth fo'u rôl gan mai ein cwsmeriaid yw ein ffocws. Rwy'n teimlo y gallaf nawr gynnig mwy o gyngor i gydweithwyr a herio meysydd lle rwy'n teimlo y gallem wella. Rydw i hefyd ar fin darllen y llyfr Gwasanaethau Da i barhau i ddysgu! Rhoddodd y cwrs fewnwelediadau i mi nad ydynt o bosib ar gael i'r rheini na lwyddodd o fynychu – gobeithio y bydd mwy o gyfleoedd i eraill i bobl gymryd rhan yn y dysgu hwn.”
Rhiannon Smith, Uwch Swyddog Cofrestru, Gofal Cymdeithasol Cymru
“Rydym yn symud i fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth, a rhoddodd yr hyfforddiant lawer o resymau i mi bwyso a mesur ein sefyllfa ni. Yn bwysicaf oll, rwy'n credu ei fod wedi fy helpu i gael rhai o'r pecynnau cymorth a'r iaith sydd eu hangen i gynnal sgyrsiau gydag eraill yn y sefydliad am sut y dylai'r gwasanaeth ymddanogs a gweithredu, ac i'm helpu i ddeall y pethau yr oedd angen i ni eu gwneud wrth i ni symud ar hyd y daith honno. Yn dilyn yr hyfforddiant rydym yn awyddus i gynnwys y sefydliad cyfan wrth drafod sut mae hyn yn edrych ac yn teimlo, er mwyn helpu i lunio hyn. Bydd heriau ar hyd y ffordd, a bydd gwybod ble i ddechrau yn her a hanner, ond rydym yn edrych ymlaen at ei roi ar waith hefyd! Un o'r pethau cyntaf rydym yn gobeithio ei wneud yw ymgorffori ein ffocws sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ymhellach ar draws y sefydliad.”
Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Awdurdod Cyllid Cymru
“Roedd y cwrs hyfforddi dylunio gwasanaethau a ddarparwyd gan Good Services yn brofiad cynhwysfawr a diddorol. O ganlyniad i'r cwrs, byddwn yn rhoi nifer o welliannau strategol ar waith er mwyn gyrru agenda'r cyngor ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ei flaen a meithrin diwylliant o gyfranogiad cwsmeriaid o ran newid gwasanaeth o fewn y sefydliad. Byddwn yn sicrhau bod cylch bywyd ein prosiect yn blaenoriaethu ymchwil ac adborth defnyddwyr er mwyn llywio'r broses ddylunio.”
Jessica Allen, Pennaeth Trawsnewid Digidol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
“I dîm Hwb, mae cael mynediad at yr hyfforddiant Ystwyth a dylunio gwasanaethau wedi bod yn adnodd gwych ac wedi caniatáu i'r is-adran ehangach ymgyfarwyddo â dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a phwysigrwydd hyn wrth ddylunio gwasanaethau digidol. Gobeithiwn sicrhau hyfforddiant pellach yn y dyfodol, a fydd yn helpu i gryfhau sgiliau mewn meysydd DDaT eraill megis; rheoli cyflawniad. Mae fy mysedd wedi'i croesi!”
Emma Steele, Rheolwr Cynnyrch Arweiniol, Hwb

Y camau nesaf

Dros y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i ddarparu cyrsiau a hyfforddiant i sector cyhoeddus Cymru. Un o'n camau nesaf yw digideiddio ein cyrsiau digidol ac Ystwyth presennol fel y gall pobl ddysgu yn eu hamser eu hunain, ac felly hyfforddi mwy o bobl.

Byddwn hefyd yn cynnal cwrs hanfodion ymchwil defnyddwyr, a ddatblygwyd gan y seicolegydd David Travis, awdur 'Think Like a UX Researcher’.

Byddwn hefyd yn cynnal rhaglen arweinwyr digidol fel rhan o'r hyfforddiant y byddwn yn ei gynnig.

Bydd ein cyfres nesaf o weminarau yn canolbwyntio ar sut mae systemau 'da' yn ymddangos o fewn y sector cyhoeddus, gan gynnwys astudiaethau achos ar drawsnewid digidol.

Darllen rhagor

Newidiadau i'n cyrsiau digidol ac Ystwyth

Cymorth a chyngor i lenwi rolau digidol, data a thechnoleg y sector cyhoeddus (DDaT)

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ysgogi llunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Amcan 3: Gweithio gydag eraill i ddatblygu strategaeth gweithlu digidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chefnogi mesurau ymarferol i greu corpws o weithwyr proffesiynol medrus.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu