Bydd defnyddio’r Safonau Gwasanaethu Digidol i ddylunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol yn ei gwneud yn haws i'w defnyddio a gall arbed amser ac arian i sefydliadau.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y ffordd orau o ddylunio tudalen we ganolog i wella ymwybyddiaeth a mynediad at offer ac adnoddau Cymraeg sy'n diwallu anghenion gwahanol ddefnyddwyr Cymraeg.
Mae'r rhaglen prentisiaeth dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ymdrech gydweithredol sy'n dod ag arbenigedd CDPS, Agored Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe at ei gilydd.
Rydym yn gweithio i greu gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau cynllunio ledled Cymru, gyda ffocws ar sut y gallai atebion digidol gefnogi’r newidiadau hyn. Nod ein gwaith yw gwneud cynllunio yn fwy hygyrch, effeithlon a chyfeillgar i’r defnyddiwr a phawb sy’n cymryd rhan.
Mae CDPS yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno sesiynau ysgrifennu triawd i archwilio ffyrdd newydd o gydweithio ar greu cynnwys digidol dwyieithog.
Roedd angen i CDPS ddeall pa gymorth y gallem ei gynnig i'r sector cyhoeddus yng Nghymru i alluogi potensial awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (DA), mewn ffordd ddiogel a moesegol.
Buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio cynnwys a fyddai'n gwneud gwybodaeth ynghylch Prydau Ysgol am Ddim yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddeall.