Tasg
Gwyliwch y fideo "Creu diffiniad o wedi’i gyflawni”. Byddwn yn archwilio beth yw'r rhain, eu pwrpas a sut i'w defnyddio. Mae hyn yn eich helpu i ddiffinio'r safon ansawdd y mae angen ei bodloni, cyn y gellir ystyried bod rhywbeth wedi'i wneud.
Trawsgrifiad o'r fideo
Yn y fideo hwn, rydyn ni'n mynd i edrych ar greu diffiniad o wedi'i wneud. Byddwn yn archwilio beth ydyw a manteision creu un.
Mae diffiniad o wedi’i gwblhau yn set o eitemau, y cytunwyd arnynt gyda'r tîm, y mae'n rhaid iddynt eu cwblhau. Fel meini prawf derbyn, mae hyn yn gwasanaethu fel rhestr wirio. Mae rhywbeth yn cael ei ystyried wedi'i wneud, unwaith y byddwch wedi cwblhau'r holl eitemau.
Mae'r diffiniad o wedi’i gwblhau yn berthnasol i bob eitem yn ôl-groniad y cynnyrch. Mae hyn yn ei wahaniaethu oddi wrth feini prawf derbyn, sy'n unigryw i bob eitem.
Gadewch i ni edrych ar enghraifft. Dychmygwch fod tîm yn datblygu gwefan. Gallent ddefnyddio hyn fel eu diffiniad o wedi’i gwblhau.
Bydd yn rhaid i unrhyw gynnwys gael ei ysgrifennu gan driawd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi datblygu cynnwys dwyieithog ochr yn ochr â dylunwyr cynnwys a chyfieithwyr. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Nesaf, rhaid iddynt sicrhau ei fod yn bodloni'r canllawiau brandio priodol.
Er mwyn i'r cynnwys fod yn hygyrch, rhaid iddo fodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Yn olaf, bydd yn rhaid iddo fynd trwy brofi. Bydd angen iddynt ddatrys unrhyw broblemau maen nhw'n dod o hyd iddynt.
Mae hyn yn berthnasol i bob eitem yn yr ôl-gron. P'un a ydyn nhw'n creu botwm neu bost blog, mae'r un diffiniad o wedi’i gwblhau yn berthnasol.
Mae diffiniad o wedi’i gwblhau yn diffinio'r safon ansawdd y mae'n rhaid i'r tîm ei bodloni. Mae'n atal timau rhag rhyddhau rhywbeth nad yw'n bodloni'r safon ddisgwyliedig.
Mae gwneud hynny yn lleihau'r risg. Mae hyn yn hanfodol wrth ystyried ein dyletswydd ynghylch y Gymraeg a gofynion hygyrchedd.
Yn olaf, mae'n sicrhau bod aliniad ac eglurder ymhlith y tîm. Mae hyn oherwydd bod pawb yn ymwybodol o'r un safon ac yn gweithio tuag at yr un safon.
Tasg
Creu diffiniad o wedi’i gwblhau ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth.
I ddechrau, gallech ddefnyddio neu addasu'r enghraifft a ddarperir. Byddai hyn yn berthnasol i lawer o wahanol gynhyrchion neu wasanaethau. Neu, gallech greu un eich hun o'r dechrau.
Enghraifft
• Defnyddio dull ysgrifennu Triawd i greu'r cynnwys.
• Mae'n bodloni canllawiau brandio.
• Yn bodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG).
• Profion wedi'u cwblhau a gwallau wedi'u datrys.
Myfirio
Sut byddai hyn yn berthnasol i'ch sefyllfa chi. O ran eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau chi, ystyriwch y cwestiynau canlynol:
- Sut ydych chi'n amcangyfrif gwaith ar hyn o bryd?
- Pa fanteision neu heriau ydych chi'n eu gweld o'r dull hwnnw?
- Beth ydych chi'n ystyried fyddai'r manteision a'r heriau o ddefnyddio Pwyntiau Stori?
- Pa gymorth pellach fyddai ei angen arnoch i'ch helpu?