Yn y modiwl hwn byddwn yn edrych ar sut mae timau Ystwyth yn sefydlu eu ffyrdd o weithio. Byddwn yn dechrau trwy edrych ar sut mae timau'n cynllunio cylch cyflenwi, gan ddefnyddio'r ôl-groniad cynnyrch. Mae hyn yn eich galluogi i gynllunio i gyflawni'r gwaith o'r gwerth uchaf. Mae hefyd yn eich galluogi i addasu eich cynlluniau, wrth i bethau newid.

Wedyn byddwn yn edrych ar sut mae timau'n olrhain eu cynnydd. Mae hyn yn annog aliniad o fewn timau. Mae hefyd yn galluogi timau i adnabod rhwystrau, fel y gallant fynd i'r afael â nhw.

Nesaf, byddwn yn edrych ar sut mae timau'n adolygu ac yn rhannu'r cynnydd maen nhw wedi'i wneud. Mae hwn yn gam pwysig i wneud eraill yn ymwybodol o newidiadau. Mae hefyd yn cynrychioli cyfle i gasglu adborth ac amlinellu'r camau nesaf.

Yn olaf, byddwn yn edrych ar sut mae timau Ystwyth yn myfyrio ar eu ffyrdd o weithio. Y nod yw nodi beth sy'n gweithio a beth sy'n heriol. Mae gwneud hynny yn galluogi timau i ddiffinio camau gweithredu, sy'n anelu at wella ffyrdd o weithio.