Tasg
Gwyliwch y fideo "Cyflwyniad i’r amcanestyniad”. Byddwn yn archwilio sut mae timau'n defnyddio Pwyntiau Stori i amcangyfrif. Bydd hyn yn eich helpu i amcangyfrif gwaith yn seiliedig ar ymdrech a chymhlethdod, yn hytrach nag amser.
Trawsgrifiad o'r fideo
Yn y fideo hwn, rydyn ni'n mynd i archwilio sut mae timau'n amcangyfrif y gwaith y mae angen iddynt ei wneud. Byddwn yn archwilio pam mae timau'n amcangyfrif eitemau yn yr ôl-groniad a sut maen nhw'n ei wneud.
Mae amcangyfrif yn eich helpu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith. Mae'n eich helpu i benderfynu faint o waith y gallwch ymrwymo iddo. Mae hefyd yn eich helpu i gymharu eitemau yn eich ôl-groniad, fel y gallwch ganolbwyntio ar y gwaith mwyaf gwerthfawr yn gyntaf.
Yn hytrach nag amcangyfrif gwaith mewn oriau neu ddyddiau, mae timau Ystwyth y aml yn defnyddio Pwyntiau Stori. Mae'r rhain yn cynnig ffordd o amcangyfrif yn seiliedig ar yr ymdrech sydd ei angen i gwblhau darn o waith. Mae timau'n ystyried swm a chymhlethdod y gwaith ac unrhyw risgiau neu ansicrwydd. Bydd gan rywbeth sy'n fwy, yn fwy cymhleth neu'n ansicr werth pwynt stori uwch.
Er mwyn amcangyfrif tasgau, mae timau Ystwyth yn aml yn defnyddio techneg fel cynllunio poker. Mae pob person yn aseinio pwyntiau stori i dasg yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o'r gwaith dan sylw. Yna maent yn trafod yr amcangyfrifon ac yn cytuno ar werth. Mae hyn yn helpu timau i ganolbwyntio ar yr ymdrech sydd ei angen, yn hytrach na pha mor hir y bydd yn ei gymryd.
Mae pwyntiau stori yn defnyddio'r dilyniant Fibonacci. Mae hyn oherwydd bod tasgau mwy yn fwy anrhagweladwy. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach rhoi amcangyfrif cywir.
Ond pam nad yw timau Ystwyth yn defnyddio amser i amcangyfrif? Yr ateb byr yw, mae'n llai cywir. Mae hyn oherwydd ei fod yn dibynnu ar lawer o newidynnau. Er enghraifft, pa mor gyflym mae rhywun yn gweithio, materion annisgwyl, neu newidiadau mewn blaenoriaethau. Mae gan ddefnyddio amseroedd a dyddiadau ymlyniad emosiynol hefyd. Nid yw'n anghyffredin i amcangyfrifon sy'n seiliedig ar amser droi'n ddyddiadau cau. Mae pwyntiau stori yn canolbwyntio ar ddarparu gwerth, yn hytrach na thrafod pa mor hir mae rhywbeth yn ei gymryd.
Yn gryno, mae timau Ystwyth yn amcangyfrif ôl-groniad i helpu i gynllunio eu gwaith. Maent yn defnyddio pwyntiau stori i benderfynu ar yr ymdrech sydd ei angen ar gyfer pob eitem. Mae amcangyfrif yn y modd hwn, yn caniatáu ichi ganolbwyntio ar ddarparu'r canlyniadau gorau i'ch defnyddwyr.