Tasg
Gwyliwch y fideo "Ysgrifennu straeon defnyddwyr”. Byddwn yn archwilio beth yw'r rhain, eu pwrpas a sut i'w defnyddio. Bydd y rhain yn eich helpu i adeiladu ôl-groniad ffocws, sy'n haws ei reoli a gweithio gyda nhw. Byddwn hefyd yn edrych ar enghreifftiau o straeon defnyddwyr da a drwg. Bydd hyn yn eich helpu chi pan ddaw i greu rhai eich hun.
Trawsgrifiad o'r fideo
Yn y fideo hwn, rydyn ni'n mynd i edrych ar ysgrifennu straeon defnyddwyr. Byddwn yn ystyried eu pwrpas, sut rydych chi'n adnabod defnyddwyr a sut i'w defnyddio yn eich ôl-groniad cynnyrch.
Mae straeon defnyddwyr yn dal anghenion defnyddwyr ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth. Maent yn anelu at annog timau i gymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae hyn oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar y broblem, nid ar yr ateb. O ganlyniad, mae'n sicrhau bod pob rhan o'r hyn rydych chi'n ei adeiladu yn bodloni anghenion penodol defnyddiwr. Maen nhw'n eich helpu i ganolbwyntio ar adeiladu rhywbeth sy’n datrys problem go iawn i’r bobl fydd yn ei ddefnyddio.
Wrth ysgrifennu straeon defnyddwyr, mae'n bwysig bod yn benodol ynghylch pwy yw'r defnyddiwr. Osgowch termau amwys fel “pawb” neu “bopeth” yn lle hynny, meddyliwch am wahanol grwpiau neu unigolion a fydd yn defnyddio'ch cynnyrch. Ar gyfer pob un o'r rhain, gall eu hanghenion amrywio yn seiliedig ar yr hyn maen nhw'n ei wneud. Po fwyaf penodol ydych chi, y mwyaf ffocws a defnyddiol fydd stori'r defnyddiwr.
Un dull cyffredin o ysgrifennu straeon defnyddwyr yw defnyddio'r templed syml hwn:
- 'Fel ...'
- 'Mae angen i mi...'
- 'Fel bod...'
Mae'r fformat hwn yn eich helpu i ddiffinio'r defnyddiwr, ei angen, a'r rheswm y tu ôl i'r angen hwnnw.
Gadewch i ni edrych ar ddwy enghraifft:
- Mae enghraifft 1 yn stori defnyddiwr ddilys. Mae'n canolbwyntio ar yr angen, nid ar ateb penodol. Nid yw'n nodi'r dull y mae'n rhaid i chi ei ddefnyddio, i ddiwallu'r angen hwn. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallech ddatrys y broblem hon.
- Nid yw Enghraifft 2 yn stori defnyddiwr ddilys oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar ddatrysiad. Mae'n cymryd yn ganiataol bod angen i'r defnyddiwr gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Lesddaliad. Gall tybio'r ateb yn rhy gynnar arwain at gamgymeriadau, gan efallai nad dyma'r ffordd orau o ddiwallu gwir angen y defnyddiwr. Yn yr achos hwn, nid oes angen i'r defnyddiwr gysylltu â rhywun, mae angen iddynt ddatrys y broblem maen nhw'n ei chael.
Ar ôl i chi ysgrifennu stori defnyddiwr ddilys, byddwch wedyn yn ysgrifennu meini prawf derbyn. Mae hyn yn gweithredu fel rhestr wirio sy'n diffinio'r hyn y mae angen i'r cynnyrch ei wneud, i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Nid yw'n nodi sut i wneud y gwaith. Mae'n ymwneud â'r canlyniad disgwyliedig, yn hytrach na'r allbwn. Bydd gan bob stori defnyddiwr ei set ei hun o feini prawf derbyn unigryw.
Wrth edrych yn ôl ar ein enghraifft o stori defnyddiwr ddilys, gallai'r meini prawf derbyn gynnwys:
- Mae'r defnyddiwr yn deall sut mae lesddaliad yn gweithio yng Nghymru.
- Maen nhw'n gwybod beth i'w wneud os oes problem gyda lesddaliad neu maen nhw eisiau prynu un.
- Ac maen nhw'n gwybod sut i ddatrys unrhyw broblemau.
Fel y soniwyd, nid yw'n nodi ateb. Yn hytrach, dyma'r canlyniad rydyn ni'n edrych i'w gyflawni. Yna gallwch brofi'r ateb gyda defnyddwyr. A yw'r ateb yn:
- Galluogi'r defnyddiwr i ddeall sut mae lesddaliad yn gweithio?
- Galluogi'r defnyddiwr i wybod beth i'w wneud os oes problem?
- Galluogi'r defnyddiwr i ddatrys problemau?
Unwaith y bydd yr ateb i'r rhain i gyd yn ie, mae stori'r defnyddiwr wedi'i chwblhau.
Bydd straeon defnyddwyr yn ymddangos yn eich ôl-groniad cynnyrch.
O'r straeon hyn, gallwch greu tasgau. Mae'r rhain yn manylu ar y darnau penodol o waith y mae angen iddynt ei wneud. Os yw tasgau'n gymhleth, gall timau rannu'r rhain ymhellach yn is-dasgau. Mae'r rhain yn gamau llai i reoli ac olrhain cynnydd. Nid yw hyn bob amser yn angenrheidiol, felly dewch o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi.
I grynhoi, mae straeon defnyddwyr yn eich helpu i ddal a blaenoriaethu anghenion eich defnyddwyr. Maent yn canolbwyntio ar y broblem yn hytrach na'r ateb. Mae straeon defnyddwyr a meini prawf derbyn yn dweud wrthych beth i'w adeiladu a sut i fesur llwyddiant. Mae ychwanegu'r rhain at eich ôl-groniad yn helpu i ganolbwyntio'r tîm ar ddarparu gwerth i ddefnyddwyr.
Tasg
Creu stori defnyddiwr ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth. Ystyried:
- Y grŵp defnyddwyr.
- Yr hyn sydd ei angen arnynt o'ch cynnyrch neu wasanaeth.
- Y rheswm y tu ôl i'r angen hwnnw.
Creu meini prawf derbyn. Cofiwch, mae'r rhain yn gweithredu fel eich prawf pasio neu fethu, i weld a yw'ch datrysiad yn bodloni anghenion y defnyddiwr. Defnyddiwch y dechreuwr brawddeg "Gall y defnyddiwr..." helpu.
Lluniwch restr o dasgau. Dyma'r pethau y byddech chi'n eu gwneud, i greu'r ateb i ddiwallu'r angen defnyddwyr hyn.