Yn y modiwl hwn byddwn yn edrych ar adeiladu a rheoli ôl-groniad cynnyrch. Dyma beth y byddwch chi'n ei ddefnyddio i reoli eich gwaith wrth i chi ddatblygu eich cynnyrch neu wasanaeth. Bydd ôl-groniad da yn cyd-fynd â'r nodau ar eich Map Ffordd.
Byddwn yn dechrau gyda throsolwg o nodweddion ôl-groniad da. Yna byddwn yn edrych ar ffyrdd ymarferol o adeiladu eich ôl-groniad.