Mae’r Safon Gwasanaethau Digidol, a ddatblygwyd o arfer gorau o bob rhan o’r byd, yn ddibynadwy. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae’r Safon wedi’i rhannu’n 12 o egwyddorion – ac un ohonynt yw ‘sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth’.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 670,000 o unigolion yng Nghymru yn ystyried eu bod yn anabl, sy’n cynrychioli 21.1% o boblogaeth Cymru.
Mae hyn yn gyfystyr ag 1 o bob 5 o’r boblogaeth, heb ystyried pobl ag anableddau dros dro. Mae anabledd dros dro yn cyfyngu ar allu unigolyn i wneud gweithgareddau dyddiol am gyfnod byr, ond disgwylir iddo wella gydag amser a thriniaeth, fel amhariad dros dro ar y golwg (gwella ar ôl llawdriniaeth neu haint ar y llygaid), cyflyrau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd (fel gorfod gorffwys yn y gwely o ganlyniad i gymhlethdodau neu wella ar ôl rhoi genedigaeth) neu dor-esgyrn (sy’n cyfyngu ar symudedd neu’r gallu i gyflawni tasgau).