
Rydym wedi datblygu’r hyb rhannu digidol fel bod y sector cyhoeddus yn gallu rhannu adnoddau ac enghreifftiau o waith da sy’n digwydd ledled Cymru.
Rydym yn annog pobl i greu cyfrif, archwilio’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a lanlwytho eu hadnoddau eu hunain i’r hyb.
Byddwn yn datblygu’r ymarferoldeb yn 2025/26, gan gynnal ymgyrch gyfathrebu i dynnu sylw pobl at yr adnodd a chwilio am hyrwyddwyr sector i gefnogi hyn.
Cofrestrwch i weld neu rannu adnoddau digidol arfer gorau.