Ceir pwyslais clir yn 2025/26, gan gynnwys:  

Mandad gweinidogol i arwain gwaith ar draws y sector cyhoeddus, fel gosod safonau cyffredin, llawlyfr gwasanaeth, asesiadau gwasanaeth a hyfforddiant/gallu.​

Cyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog (sef cynllunio, niwroamrywiaeth a budd-daliadau ar hyn o bryd, ond nid yn gyfyngedig iddynt).

Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hagenda ddigidol, gan gynnwys datblygu a darparu hyfforddiant i uwch weision sifil, rheoli parthau llyw.cymru a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil ‘Glasbrint ar gyfer llywodraeth ddigidol fodern’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.

Gweld ein map trywydd