Rydym wedi parhau i gynorthwyo sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau digidol gwell trwy ymsefydlu egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Mae ein tri phrif brosiect cyflawni wedi canolbwyntio ar fudd-daliadau, cynllunio a niwroamrywiaeth, a bu’n wych gweithio gyda gweision cyhoeddus brwdfrydig yn Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac ym maes iechyd.

Mae ein gwaith yn aml yn gymhleth ac mae’n cynnwys llawer o randdeiliaid. Mae ymgysylltu â’r rhanddeiliaid hyn wedi bod yn rhan fawr iawn o’n gwaith eleni; mae uwch swyddogion cyfrifol yn Llywodraeth Cymru, grŵp llywio symleiddio budd-daliadau Cymru, y grŵp cynghori strategol ar gyfer cynllunio, y grŵp cynghori digidol ar gyfer llywodraeth leol, yn ogystal â fforymau fel Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru a sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Trussel a Chyngor ar Bopeth i gyd wedi cyfrannu at ffurfio ein gwaith. 

Gallai’r prosiectau hyn arwain at welliannau sylweddol o ran sut mae dinasyddion yn cael at wasanaethau, lleihau costau gweithredol, a chynyddu bodlonrwydd cyhoeddus. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae llawer mwy i’w wneud.

Symleiddio Budd-daliadau Cymru: Sut gallem sicrhau bod pob preswyliwr yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt?  

Gwasanaethau Niwrowahanol i Blant: Sut gallem roi cymorth gwell i’r rhai sy’n aros am atgyfeiriad neu asesiad niwrowahaniaeth yng Nghymru? 

Gwasanaethau Cynllunio: Sut gallem wella’r broses gynllunio cyn-ymgeisio i wneud gwasanaethau cynllunio yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac effeithiol?