Rhagair y Prif Swyddog Gweithredol

Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu ar-lein bellach. Yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CGCD), ein cenhadaeth yw helpu’r rhai sy’n dylunio’r gwasanaethau hyn i’w gwneud mor hawdd eu defnyddio a hygyrch â phosibl, gan sicrhau eu bod wir yn bodloni anghenion defnyddwyr ar yr un pryd â chyflawni eu hamcanion polisi bwriadedig.
Rydym yn rhannu gweledigaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig a fynegwyd yn y Glasbrint ar gyfer Llywodraeth Fodern, sef “nid ategiad, ychwanegiad dewisol, neu rywbeth sy’n dod o’r tu allan yw technoleg ddigidol: mae’n ymgorfforedig. Mae’n strwythurol. Ac mae’n barhaol.” Mae’r weledigaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â’r uchelgeisiau a amlinellir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru, sy’n darparu ein map trywydd ar gyfer creu gwasanaethau cyhoeddus digidol cydlynol, cynhwysol a thrawsnewidiol ledled Cymru.
Drwy gydol 2024-25, mae CGCD wedi arwain sawl darparwr gwasanaeth tuag at y nod hwn, gan weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cymorth, gwybodaeth ac offer gwell y gallant eu defnyddio bob dydd.
Gan fyfyrio ar ein gwaith eleni, hoffem amlygu pedwar maes allweddol yr ydym wedi cyflawni cynnydd sylweddol ynddynt:
- Gwella gwasanaethau i ddinasyddion – trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus penodol i fodloni anghenion pobl yng Nghymru yn well
- Tyfu arweinyddiaeth ddigidol – datblygu sgiliau a hyder arweinwyr i fwrw ymlaen â thrawsnewid digidol
- Creu cysylltiadau pwysig – meithrin cydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws sefydliadau
- Cynorthwyo sefydliadau i fodloni Safon Gwasanaethau Digidol Cymru – dyma’r safon ganolog sy’n dangos sut beth yw gwasanaeth da
Wrth i CGCD esblygu, felly hefyd amrywiaeth y cymorth a ddarparwn ar draws y sector. Eleni, rydym yn ymfalchïo’n arbennig yn y ffaith bod presenoldeb yn tyfu yn ein Cymunedau Ymarfer, y nifer sylweddol o arweinwyr rydym wedi’u grymuso â hyder digidol, a’r cyrff traws-sector rydym wedi’u cynnull i arwain Safonau Digidol a Data a Deallusrwydd Artiffisial – sydd i gyd yn flaenoriaethau allweddol a amlygwyd yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Rydym yn arbennig o falch o’n cynnydd wrth wella gwasanaethau hollbwysig fel budd-daliadau, gwasanaethau cynllunio a gwasanaethau niwrowahanol yng Nghymru. Mae’r ymdrechion hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chenhadaeth y Strategaeth Ddigidol o gyflawni gwasanaethau cyhoeddus gwell sy’n hygyrch i bawb.
Rydym yn falch o’r arweiniad newydd a gynhyrchwyd gennym i bob sector ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol – a’n proses triawd ysgrifennu unigryw sydd bellach yn cael ei mabwysiadu y tu hwnt i Gymru gan sefydliadau sy’n creu cynhyrchion dwyieithog.
Rydym yn falch o’n rhwydwaith helaeth o gydweithredwyr, sydd i gyd yn cyfrannu at uchelgais genedlaethol a rennir o wella bywydau yng Nghymru trwy dechnoleg ddigidol. Mae partneriaid gan gynnwys Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Gymraeg yn dangos mai cydweithio er budd pawb yw cryfder mawr Cymru.
Hoffem ddiolch eleni i’n Cadeirydd sy’n ymadael, sef Sharon Gilburd, am ei harweiniad a’i chymorth drwy gydol y flwyddyn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n Cadeirydd dros dro newydd, sef John Mark Frost.
Myra Hunt a Harriet Green,
Prif Swyddogion Gweithredol ar y Cyd, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol