Cynhaliwyd ymarfer darganfod i ddeall cyflwr presennol hygyrchedd digidol yng Nghymru, amlygu heriau, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella.

Roedd y fethodoleg ymchwil yn gadarn, gan gyfuno ymchwil ddesg, archwiliadau hygyrchedd awtomataidd o dudalennau hafan 54 o wefannau ac 11 o dudalennau gwasanaeth, profi â llaw, cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr a chanddynt ofynion mynediad, trafodaethau â rheoleiddwyr, ac arolwg o ddarparwyr gwasanaethau. Datgelodd y dull amlweddog hwn wybodaeth arwyddocaol am hygyrchedd ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Amlygodd y canfyddiadau sawl mater hollbwysig sy’n effeithio ar hygyrchedd digidol yng Nghymru. Yn nodedig, nid yw’n glir sut mae safonau hygyrchedd digidol yn cael eu gorfodi, sy’n arwain at flaenoriaethu isel a chydymffurfedd anghyson.

Mae’r cyfrifoldeb sefydliadol am hygrchedd yn amwys yn aml, gan syrthio fel arfer ar unigolion brwdfrydig yn hytrach na phrosesau sefydledig.

Datgelodd yr ymchwil hefyd sgiliau a chapasiti cyfyngedig o ran hygyrchedd ar draws sefydliadau, sy’n dibynnu’n drwm ar werthwyr trydydd parti nad yw eu cynhyrchion yn aml yn bodloni safonau hygyrchedd. Yn ogystal, mae’n gyffredin i lai o flaenoriaeth gael ei rhoi i hygyrchedd o gymharu â mandadau eraill fel gofynion y Gymraeg a safonau diogelu data.  

"Nid oes canlyniadau clir" am beidio â bodloni rheoliadau hygyrchedd

"Sut ydym yn gwybod bod yr hyn maen nhw wedi’i greu [cyflenwyr trydydd parti] yn cydymffurfio â hygyrchedd, mewn gwirionedd"  

"Mae rhai sefydliadau’n ofni maint y broblem [hygyrchedd] cymaint fel na allant weithredu – mae’n eu gorlethu" 

"Yn fy marn i, os nad ydych yn darparu gwasanaeth digidol hygyrch, nid ydych yn darparu gwasanaeth digidol."  

Gwnaeth y tîm sawl argymhelliad ynglŷn â sgiliau ac arweiniad a phartneriaethau strategol, yr ydym wedi gwneud cynnydd da tuag atynt.