Yng nghyd-destun cymhleth y sector cyhoeddus, mae creu cysylltiadau cryf yn bwysicach nag erioed. 

Eleni, rydym wedi cyfrannu at chwalu seilos traddodiadol, gan ganiatáu i arbenigedd a syniadau lifo ar draws ffiniau sefydliadol. 

Mae’r cysylltiadau hyn wedi creu cymunedau grymus lle mae heriau’n cael eu trafod yn agored, gan fanteisio ar safbwyntiau amrywiol sy’n cynhyrchu atebion mwy cynhwysol. 

Mae ein hymagwedd yn dilyn y traddodiad balch o gydweithio a geir yng Nghymru – gan ymgorffori pum ffordd o weithio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – meddwl am y tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio, a chynnwys, sef egwyddorion sy’n arwain y ffordd rydym yn ffurfio perthnasoedd a darparu ein gwasanaethau.

Cymunedau Ymarfer 

Digwyddiadau Cymuned Gyd-ddylunio 

Hyb Rhannu Digidol