Mae poblogrwydd ein digwyddiadau Dolenni Digidol ar gyfer arweinwyr yn cynyddu.
Denodd y 3 digwyddiad a gynhaliom y llynedd fwy na 100 o arweinwyr o bob rhan o Gymru.

Roeddent yn gyfle i arweinwyr ysbrydoli ei gilydd trwy drafodaethau panel oedd yn ysgogi’r meddwl gyda digonedd o gyfleoedd i rwydweithio.

Dechreuwyd ffrydio ein digwyddiadau’n fyw eleni hefyd, gan roi cyfle i bobl ymuno o unrhyw le ac ymgysylltu a gofyn cwestiynau i uwch aelodau’r panel.
Mae 20 o bobl wedi mynychu pob digwyddiad yn rhithwir ar gyfartaledd – ond yr hyn sydd wedi’n synnu yw nifer y bobl sy’n gwylio’r recordiad wedi hynny.
“Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y defnydd a wneir o ddeallusrwydd artiffisial a’r awydd i gydweithio a rhannu’r wybodaeth hon, fel nad ydym yn ailddyfeisio’r olwyn.”
“Digwyddiad gwych. Byddaf yn gofyn beth yw ymagwedd ein sefydliad at hygyrchedd a faint o’r gyllideb rydym yn ei ddyrannu i wella hygyrchedd ein gwasanaethau.”
Beth nesaf?
Byddwn yn dyblu nifer y digwyddiadau Dolenni Digidol eleni ac rydym yn gweithio tuag at Uwchgynhadledd Ddigidol ym mis Chwefror 2026.
Mae dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar ein gwefan
Os ydych eisiau gwylio recordiad o’r ffrwd fyw – ewch i’n rhestr chwarae YouTube