Fe wnaethom lofnodi cytundeb partneriaeth gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a darparu cefnogaeth i'w Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol.  

Nod y rhaglen yw defnyddio atebion digidol i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, ac yn fwy effeithlon ac effeithiol.

"Rwy'n gweld manteision mawr a gwirioneddol i'r bartneriaeth hon. Bydd yn ein galluogi i ddeall effaith tynnu papur o'r system a dewis a chyflwyno'r dechnoleg sy'n diwallu anghenion GIG Cymru.  

Rydym yn gwybod nad yw pawb eisiau defnyddio gwasanaethau ar-lein. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod datblygiad newydd sylweddol a fydd yn effeithio ar bawb sy'n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru yn gynhwysol yn ddigidol.  

Mae dod â'n harbenigedd at ei gilydd yn rhoi'r syniadau a'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i ddarparu'r atebion meddyginiaeth digidol gorau oll i bobl Cymru." 
- Helen Thomas, Prif Weithredwr, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

2.2.1. Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr 

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o dechnolegau a chreu a gwreiddio safonau cyffredin ac a rennir mewn digidol, data a thechnoleg 

Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well 

Pum Ffordd o Weithio: Hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithredu, atal 

7 nod llesiant: Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

Wrth ymateb i adolygiad annibynnol, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei huchelgais ar gyfer cynllun meddyginiaethau digidol cynhwysfawr ar gyfer Cymru ym mis Medi 2021 a gofynnodd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru sefydlu'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol.  

Mae'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn dod â rhaglenni a phrosiectau at ei gilydd a fydd yn gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru, yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol, trwy ddigidol.  

Fel rhan o'n partneriaeth, buom yn gweithio gyda'r tîm i ddeall yr heriau a'r risgiau o gael gwared ar waith papur yn y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaethau Presgripsiwn Electronig (EPS) mewn lleoliad gofal sylfaenol - a ddefnyddir gan feddygon teulu a staff anfeddygol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, a rheoli meddyginiaethau mewn meddygfeydd a fferyllfeydd  

Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA) mewn lleoliad gofal eilaidd - a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, a rheoli meddyginiaethau mewn ysbytai

EPS mewn lleoliad gofal sylfaenol

Fe wnaethom ganolbwyntio ar 3 maes:

  1. Dosbarthu tocynnau – cleifion sy'n rhoi eu presgripsiynau papur i'r fferyllydd i gasglu eu meddyginiaeth 

  2. Trawsffiniol – cleifion sydd angen meddyginiaeth wedi'i rhagnodi a'i dosbarthu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr

  1. Practis dosbarthu– practis sy'n rhagnodi ac yn dosbarthu meddyginiaeth i gleifion 

Cynhaliwyd cyfweliadau defnyddwyr manwl gyda dros 30 o bobl a chynnal 6 gweithdy yn edrych ar bresgripsiynau ailadroddus, mynediad i gofnodion iechyd a threfnu apwyntiadau.  

Gwnaethom rannu crynodeb o'r canfyddiadau a'r opsiynau ar gyfer sut i symud ymlaen gyda'r uwch berchnogion cyfrifol ar gyfer y portffolio cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer bwrdd y rhaglen gofal sylfaenol, gan roi'r rhesymeg, y data a'r straeon y tu ôl i'r argymhelliad, i gefnogi eu penderfyniadau. 

Buom hefyd yn trafod sut y gallai dull profi, dysgu ac ailadrodd weithio ar gyfer pob maes ffocws, yn hytrach na cheisio adnabod un opsiwn pan fydd sawl cyfyngiad ac ansicrwydd.  

ePMA mewn lleoliad gofal eilaidd

Disgwylir y bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn symud at ragnodi digidol a gweinyddu meddyginiaethau ac yn caffael ac yn gweithredu rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau (ePMA) fel rhan o'r newid hwn. 

Waeth beth yw'r dewis o system ePMA, bydd hyn yn gofyn am newidiadau i lawer o brosesau, tasgau ac o bosibl rolau, ar draws rhagnodi, gweinyddu meddyginiaethau, rheoli a rhyddhau meddyginiaethau a'r hyn sy'n digwydd wedi hynny, ar draws llawer o wahanol safleoedd a lleoliadau gofal arbenigol. 

Mae hyn yn dod â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella'r profiad i gleifion a chlinigwyr. Ond mae yna gyfyngiadau hefyd, anghenion defnyddwyr newydd, 'realiti anniben' ffyrdd o weithio o ddydd i ddydd a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau, ac anfanteision i'w deall. 

Gwnaethom gefnogi'r tîm i ddeall anghenion a safbwyntiau'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, rheoli a derbyn meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru. 

Roedd ein hadroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion ynghylch sut i:  

  • baratoi ar gyfer y newid  

  • diffinio llwyddiant 

  • mabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr  

  • diffinio gofynion clinigol 

  • canolbwyntio ar ddefnyddioldeb 

  • paratoi'r seilwaith presennol, gan gynnwys wifi a dyfeisiau

"Mae rhoi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth wraidd ein dyluniad yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol sy'n gweithio i'r bobl sy'n eu defnyddio. 

Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda'r CDPS ac yn edrych ymlaen at roi'r canfyddiadau ar waith."
- Rhian Hamer, Cyfarwyddwr y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol

Uwchsgilio’r sector iechyd

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, hyfforddodd ein tîm Sgiliau a Galluoedd 150 o bobl yn gweithio yn y sector iechyd ar eu cyrsiau 'Digidol ac Ystwyth', ynghyd â hyfforddiant Ystwyth ar gyfer timau ac arweinwyr.

Darllen mwy

Symud tuag at bresgripsiynau electronig yng Nghymru 

Gwella'r broses ragnodi mewn ysbytai drwy flaenoriaethu anghenion defnyddwyr 

2.2.2. Cronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol 

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr 

Pum Ffordd o Weithio: Hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithredu, atal 

7 nod llesiant: Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang 

Eleni roeddem ar banel craffu'r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol.  

Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r gronfa ac yn edrych ar drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio i ariannu trawsnewid profiad y claf, neu ffyrdd staff o weithio, trwy gymhwyso technoleg ddigidol.