Am flwyddyn brysur a chyffrous a fu. 

Erbyn i'n hadolygiad gael ei gyhoeddi, byddwn eisoes yn chwarter 1 y flwyddyn ariannol newydd, gyda llawer o gynnydd eisoes wedi'i wneud tuag at ein hamcanion ar gyfer 2023 i 2024. 

Rydym wedi gwneud llawer o waith o amgylch ein blaenoriaethau strategol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon i helpu i gyflawni'r amcanion hyn. Mae gennym ni fap ffordd 3 blynedd a blwyddyn (Ystwyth fel y byddech chi'n ei ddisgwyl)! 

Yn ddiweddar rydym wedi datblygu dull i flaenoriaethu ein gwaith a chael gwir eglurder ar y gwasanaethau y byddwn yn eu darparu yn 2023 i 2024. Bydd hyn i gyd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Os mai llynedd oedd y flwyddyn ar gyfer cydgrynhoi, eleni yw'r flwyddyn ar gyfer cyflwyno.  

Awn amdani!