"Mae caniatâd cynllunio yn ddryslyd, yntydi?"
Rwy'n amau eich bod wedi clywed hyn yn aml pan yn trafod y pwnc caniatâd cynllunio. Gall unrhyw newid y mae angen i rywun ei wneud i'w tŷ arwain at y broses ddryslyd hon, ond oes angen iddo fod felly?
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o awdurdodau lleol i archwilio elfennau o'r broses gynllunio, i weld sut y gallwn wella gwasanaethau cynllunio.
Mae'r Safon Gwasanaeth Digidol yn eirioli dros ddiwallu anghenion defnyddwyr, gan ddeall defnyddwyr a'u hanghenion.
Fel rhan o hyn, mae ein tîm wedi treulio'r misoedd diwethaf yn siarad ag awdurdodau cynllunio lleol ac amrywiaeth o berchnogion tai yng Nghymru i ddeall eu profiadau o wasanaeth cyngor ar y broses cyn ymgeisio o’r daith gynllunio.
Yn y sesiynau hyn fe ddysgon ni lawer am yr hyn yr oedd ei angen ar y defnyddwyr, a pha broblemau roedden nhw'n eu hwynebu ar y daith. Yn dilyn hyn, rydym wedi dadansoddi a dehongli ein canfyddiadau ac wedi nodi rhai gwelliannau y credwn a fydd yn helpu defnyddwyr y gwasanaeth hwn.
Rydym wedi cyfuno'r elfennau hyn ac wedi creu cynnwys a dyluniadau a'u ffurfio yn brototeip. Fersiwn wedi'i chynllunio'n benodol o'r ffordd rydym ni yn credu y gallem fynd i'r afael orau ag anghenion a phryderon y defnyddwyr hyn. Ond er ein bod wedi gweithio gyda phartneriaid mewn meysydd penodol, elfen arall o'r safon yw canolbwyntio ar les pobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod ein syniadau'n gweithio i Gymru gyfan, rydym wedi penderfynu adeiladu ein prototeip yn seiliedig ar ganllawiau ar gyfer Cymru gyfan. Ond er mwyn helpu i wneud iddo deimlo'n lleol, rydyn ni wedi gosod pethau yn un o drefi ffuglen mwyaf poblogaidd Cymru...

Dyma lun sgrin o dudalen we gyda baner las gyda'r teitl Cyngor Pontypandy. O dan y faner hon mae cysylltiadau amrywiol ac yna prif gorff y dudalen we "Perchnogion tai – sut i wneud cais am ganiatâd cynllunio"
Felly, mae gennym brototeip, ond sut rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n ei gael yn iawn?
Wel, yn debyg iawn i'r adeiladwyr sy'n gweithio ar y gwelliannau hynny i'r cartref, rydym yn mesur y broses ac yn cynnal profion defnyddioldeb.
Beth yw profion defnyddioldeb?
Mae profi defnyddioldeb yn golygu bod ein tîm yn cyflwyno’r prototeip hwn i ddefnyddwyr go iawn y gwasanaeth a chael eu hadborth ar y dyluniadau a'r cynnwys. Rydyn ni eisiau gwybod sut mae'r dyluniad yn gwneud iddyn nhw deimlo, os yw'r cynnwys yn gwneud synnwyr, os yw'n dweud wrthyn nhw beth sydd angen iddyn nhw wybod.
Rydyn ni'n gwneud hyn trwy siarad â'r defnyddwyr, dysgu ychydig amdanyn nhw, yna rhoi senarios iddyn nhw a gofyn iddyn nhw ryngweithio â'r dyluniad.
Yna rydym yn nodi’r hyn ddigwyddodd, yn cymharu hyn â phrofion eraill ac yn defnyddio'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a mireinio'r dyluniadau.
Mae hyn yn golygu yn hytrach na dylunio rhywbeth a gobeithio am y gorau.Rydym yn derbyn adborth gan bobl go iawn. Mae'r gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd, felly mae yr hawl ganddyn nhw i fynegi eu barn.
Mae'r profion yn parhau ac rydym yn hynod gyffrous i weld sut y gallwn ddiweddaru ein dyluniadau i wasanaethu anghenion Cymru orau.
A gobeithio ar ôl hyn, bydd llawer llai o bobl yn dweud, "Mae caniatâd cynllunio yn ddryslyd, yntydi?"
Cymryd rhan
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am berchnogion tai i'n helpu i brofi. Os oes gennych 45 munud rhydd i ddangos i ni sut y byddech chi'n defnyddio'r wefan rydyn ni wedi'i hadeiladu, llenwch y ffurflen hon.
Byddwch yn derbyn taleb siopa o £20 fel arwydd o'n gwerthfawrogiad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect cynllunio ac yr hoffech gael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd, cofrestrwch yma.