Nodau'r prosiect

Ein nod oedd argymell newidiadau cynaliadwy ar gyfer gwell gwasanaethau cynllunio yng Nghymru. Gwnaethom ganolbwyntio ar ddefnyddio atebion digidol i gefnogi'r newidiadau hyn. 

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn anelu at: 

  • ddeall y broses bresennol 
  • ymgysylltu â'r rhanddeiliaid cywir 
  • nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella 

Strwythur y prosiect 

Trefnodd y tîm y prosiect i 3 cham:  

  1. Cyn-ddarganfyddiad  
  2. Darganfyddiad  
  3. Alffa 

Alffa

Mae'r tîm yn alffa ar hyn o bryd. 

Ar gyfer alffa, bydd y tîm yn canolbwyntio ar gam cyn ymgeisio y broses gynllunio. Rydym yn partneru gyda Llywodraeth Cymru a thri awdurdod lleol, Caerdydd, Bro Morgannwg a Gwynedd. 

Mae'r amcanion ar gyfer y cam hwn yn cynnwys:  

  • cael dealltwriaeth glir o'r broses cyn ymgeisio yn yr awdurdodau hyn 
  • archwilio sut mae'r cam cyn ymgeisio yn cysylltu â'r broses gynllunio gyfan 
  • nodi anghenion awdurdodau cynllunio lleol ac ymgeiswyr  
  • darganfod pryderon o fewn y broses  
  • diffinio cynnyrch hyfyw i fynd i'r afael â'r materion allweddol  

Yn dilyn hyn, mae'r tîm yn ceisio sicrhau y gellir rhannu dyluniadau neu gynnwys a grëir yn ehangach i gefnogi cynllunio ledled Cymru.   

Bydd y tîm yn gweithio yn agored ac yn rhannu eu dysgu drwy'r broses hon. 

Cofrestru ar gyfer diweddariadau prosiect