
“Dyma’r union fath o ddatblygiad arweinyddiaeth y mae ei angen ar Gymru. Trwy roi’r sgiliau i’n harweinwyr gwasanaethau cyhoeddus feddwl yn y tymor hir, cydweithio ar draws ffiniau, a rhoi dinasyddion wrth wraidd dylunio gwasanaethau, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol."
Mae ein rhaglen yn helpu arweinwyr i wella eu dealltwriaeth o sut gall technoleg ddigidol gefnogi blaenoriaethau craidd eu sefydliad, darparu gwasanaethau gwell i ddinasyddion, gwneud arbedion effeithlonrwydd i’w sefydliad a darparu gwell gwerth am arian cyhoeddus. Mae 26 o arweinwyr eisoes wedi graddio o’r rhaglen o’r sefydliadau canlynol.

Pa effaith y mae wedi’i chael?
Bydd yn cymryd amser i fesur effaith rhaglen fel yr un hon wrth i gyfranogwyr fynd yn ôl i’w sefydliadau i ddylanwadu ar newid.
Ailadroddodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am dechnoleg ddigidol, bwysigrwydd eu rôl lysgenhadol mewn neges fideo at y graddedigion:
“Fel arweinwyr, rydw i eisiau i ni sylweddoli, gyda’n gilydd, nad rhywbeth braf i’w wneud yn unig yw technoleg ddigidol, ond rhywbeth sy’n allweddol i ddatrys problemau mewn ffordd fwy effeithlon yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn mynegi sut mae ein hymagwedd wedi’i seilio ar gydweithio, ailadrodd a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae’n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn."
It's the only way that we can create high quality public services that people choose to use. I challenge you to take an active role in applying your skills within your organisations.
Bring what you've learned back to your teams and share it widely. Champion the Digital Service Standards for Wales, advocate for digital transformation,
foster innovation and create a culture of learning and growth that benefits everyone.
Use the networks that you've built on the programme to stay connected and to support one another with the challenges and the successes that you'll face together.”
Gadewch i ni glywed gan rai o'r cyfranogwyr
"Rwy’n teimlo fy mod i wedi elwa oherwydd cefais gyfle i gyfarfod â llawer o bobl o’r un anian sydd â diddordeb mewn datblygu ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae fy sefydliad yn ystyried datblygu a gweithredu ein cofnodion iechyd digidol ein hunain, felly, ar ôl bod ar y rhaglen hon, rwy’n awyddus iawn i gymryd rhan a gwneud defnydd da o’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu.”

Athena Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y peth mwyaf rwy’n ei sylweddoli yw y bydd y cysylltiadau rwy’n eu gwneud yn fuddiol iawn i mi a’n sefydliadau. Rydyn ni’n edrych ar dreth newydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd yn golygu gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae’n wych gwybod fy mod i’n adnabod pobl y gallaf siarad â nhw, ac mae hynny’n gyffrous iawn.”

Joseph Lewis Reid, Awdurdod Refeniw Cymru
“Roeddwn i eisiau rhannu llwyddiant sy’n dangos yr effaith amlwg y mae Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern eisoes yn ei chael yn fy myd.
Yn fwy cyffredinol, rydw i eisiau i dimau feddwl yn ddyfnach am anghenion ehangach defnyddwyr yng Nghymru ac annog mwy o ymchwil defnyddwyr gyda siaradwyr Cymraeg.
Ar ôl ymgysylltu â’r rhaglen, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gallu mynegi a dadlau dros anghenion defnyddwyr Cymraeg eu hiaith yn well a gwerthu buddion pethau fel triawd ysgrifennu.

Ceri Wilcock, y Brifysgol Agored
"Roedd wir wedi caniatáu i mi gamu’n ôl ac yna dechrau meddwl am fy effaith… yn enwedig o ran pethau fel cynhwysiant digidol. Un o’r pethau rydw i’n ei wneud yn amlach yn awr yw gofyn cwestiynau mwy agored fel, ‘Beth ydyn ni’n ei golli? Sut gallwn ni gynnwys mwy o leisiau yn ein sgyrsiau?”
"Rydw i bellach yn arwain Cymuned Ymarfer perchnogaeth gwasanaeth… ac yn deall sut rydyn ni’n cymryd ein holl gynhyrchion a gwasanaethau a’u gweld fel gwasanaethau cydlynol, o’r dechrau i’r diwedd i wneud ein gwasanaethau’n fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio."
Beth nesaf?
Byddwn yn cynnal sawl digwyddiad i gynfyfyrwyr eleni i roi lle penodol i’r arweinwyr hyn ddatblygu’r cysylltiadau maen nhw wedi’u gwneud a pharhau i rannu a dysgu gyda’i gilydd.
Mae carfan mis Medi yn ne Cymru yn llawn, ond rydym yn derbyn mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer carfanau yn y dyfodol.
Mae’r twf parhaus yn dangos gwerth y rhaglen wrth ddatblygu arweinyddiaeth flaengar ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.