Prydau Ysgol am Ddim
Yn dilyn y gwaith a wnaethom ar y Grant Hanfodion Ysgolion, y maebron i 20% o awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio, buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio cynnwys a fyddai'n gwneud y cynnwys ynghylch Prydau Ysgol am Ddim yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddeall.
Mae Prydau Ysgol am Ddim yn darparu pryd o fwyd am ddim i blant sydd ei angen pob dydd yn yr ysgol neu help i dalu amdano.
Hyd yn oed wrth gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol, parheir i ofyn i rieni neu warcheidwaid sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim, fel gofyniad i dderbyn cymorth arall.
Mae'r wybodaeth sydd ar gael i egluro hyn yn ddryslyd i ddefnyddwyr ac roedd siaradwyr Cymraeg yn ei chael hi'n anodd deall yr wybodaeth yn y Gymraeg.
Effaith
Gwnaethom ymgysylltu a chynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a defnyddwyr trwy weithdai, ymgynghoriadau, ac arbrofion a threulio amser gyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a dielw yng Nghymru, i archwilio pam na fyddai pobl efallai'n hawlio budd-daliadau neu'n gael at gymorth pan oedd ei angen arnynt.
O'r darn hwn o waith, fe wnaethom gynhyrchu pecyn cymorth Prydau Ysgol am Ddim i awdurdodau lleol.
Dyma oedd gan ein partneriaid i'w ddweud
“Fel awdurdod lleol, mae gallu cydweithoi â CDPS ar brosiectau fel Grant Hanfodion Ysgolion a Prydau Ysgol am Ddim wedi ein helpu i weithio tuag at un o'n hamcanion craidd sef gwneud gwasanaethau hanfodol yn hygyrch ac yn hawdd i'w defnyddio.
Mae ymrwymiad CDPS i ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr wedi arwain at greu cynnwys cydweithredol a lleihau dyblygu ar draws awdurdodau lleol Cymru. Trwy weithdai ac ymgynghoriadau, fe wnaethant ymgysylltu â rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a defnyddwyr gwasanaethau, gan feithrin creadigrwydd a chynwysoldeb.
Roedd y dull cynhwysol hwn yn darparu mewnwelediadau amhrisiadwy, gan sicrhau cynnwys perthnasol, hygyrch. Mae allbynnau diriaethol yn cynnwys cynnwys cyd-ddylunio a methodolegau dwyieithog effeithiol.
Roedd cronni adnoddau yn golygu y gellid diweddaru'r cynnwys yn fwy effeithlon, ac roedd o fudd i ddefnyddwyr a staff fel ei gilydd. Yn fewnol, roedd rhanddeiliaid yn cofleidio defnyddio dulliau dylunio oedd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan arwain at brosesau symlach, cynyddu boddhad y defnyddiwr a gwella morâl.
Rydym yn croesawu dull cydweithredol CDPS o ddylunio cynnwys ac yn annog awdurdodau lleol eraill i ddefnyddio eu pecynnau cymorth a'u harbenigedd. Rydym yn ddiolchgar am y bartneriaeth hon ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio.
Drwy barhau i ganolbwyntio ar wella ac arloesi parhaus, rydym yn hyderus y gallwn barhau i ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r broses hon i wella hygyrchedd ac effeithiolrwydd mwy o'n gwasanaethau."
Y camau nesaf
Mae'r tîm bellach wedi cwblhau ymchwil i fwydo i'n cam nesaf o'r prosiect i gefnogi costau byw.
Rydym yn ystyried cyfloedd i weithio'n agos gydag un awdurdod lleol i ddangos effaith creu cynnwys fel hyn er mwyn darparu gwell canlyniadau i ddinasyddion.
Mae'r gwaith hwn hefyd wedi arwain at gynrychiolaeth o CDPS ar y grŵp llywio ar gyfer y system un budd-dal i Gymru.
Darllen rhagor
Cefnogi awdurdodau lleol gyda phecynnau cymorth
Cynhyrchu cynnwys dwyieithog drwy ysgrifennu triawd
Pa rôl mae'r cyfieithydd yn ei chwarae wrth ddylunio cynnwys?
Rhoi gwasanaethau mwy cyson i ddefnyddwyr yn ystod argyfwng costau byw
Gwyliwch ein sioe dangos a dweud
Sut mae'n bodloni ein hamcanion
Amcanion CDPS:
Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.
Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.
Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym maes digidol, data a thechnoleg.
Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Meddwl yn yr hirdymor
- Integreiddio
- Cynnwys
- Cydweithio
- Atal
7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cymru lewyrchus
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang