7 Rhagfyr 2022

Gwnaethom gynnal y gweithdy gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Daeth 73 o bobl. Roeddent yn dod o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr ledled Cymru o Cyngor ar Bopeth. 

Yn y grwpiau llai, roedden ni’n rhannu llawer o brofiadau a gwybodaeth. Caniataodd hyn  inni ddechrau mynd i’r afael â’r problemau pwysicaf. 

Gweithredoedd

Roedden ni’n glir bod angen i ni ddod â’r diwrnod i ben gyda gweithredoedd a chanlyniadau. Dyma beth wnaethon ni gytuno i’w wneud:

1. I ddefnyddio’r enwau swyddogol a roddir gan Lywodraeth Cymru er pob budd-dal a gwasanaeth

Bydd pob awdurdod lleol yn defnyddio’r enwau swyddogol sy’n cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru ar fudd-daliadau a gwasanaethau. Bydd hyn yn gliriach ac yn fwy cyson i ddefnyddwyr. 

Mae hyn yn arbennig o wir i helpu defnyddwyr i ddeall ymgyrchoedd cenedlaethol a chysylltu â sefydliadau eraill, fel Cyngor ar Bopeth.  

Does dim angen i enwau’r tudalennau adlewyrchu enw swyddogol y grant. Fodd bynnag, lle mae’r grant yn cael ei enwi, dylai fod cysondeb.  

Er enghraifft:

Cymorth gyda’ch biliau ynni

Mae gan Lywodraeth Cymru fwy o gefnogaeth i’ch helpu i dalu’ch biliau ynni.  

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad ariannol untro o £200 gan ei hawdurdod lleol. Enw’r taliad hwn yw Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru 

2. Bydd llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos i gyd-ddylunio buddion newydd neu wybodaeth am wasanaethau

Bydd hyn yn golygu y bydd buddion neu wasanaethau newydd, sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol, yn cyd-fynd yn well â gwybodaeth ac ymgyrchoedd sydd ar gael yn genedlaethol.  

Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i swyddogion o fewn awdurdodau lleol baratoi eu cynnwys ar-lein, yn barod ar gyfer pan fydd budd-daliadau neu gynlluniau newydd yn mynd yn fyw.  

3. Byddwn ni a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar gynnwys ac ymchwil

Byddwn yn gwneud hyn i’w gwneud yn glir i ddefnyddwyr sy’n gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau a gwasanaethau.  

Daeth yr arwyddair “gwnewch e unwaith, gwnewch e’n iawn” i’r amlwg yn ystod y gweithdy. Tynnodd hai pobl sylw at y ffaith bod swyddogion yn gweithio mewn seilos o fewn eu hawdurdodau lleol eu hunain a’u bod yn wynebu heriau a phenderfyniadau tebyg i’r rhai mewn awdurdodau lleol eraill. 

Problemau i’w hailystyried

Daeth problemau I’r amlwg yn ystod y dydd a oedd yn rhy fawr neu gymhleth ar gyfer y gweithdy.

1. Profiadau gwael ar-lein

Mae pobl yn cael profiadau gwael wrth fynd at wasanaethau awdurdodau lleol ar-lein. Mae ffonio neu drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb yn aml yn brofiad gwell.

Rhannodd nifer o awdurdodau lleol yr un her.

Rydym yn gwybod o ymchwil defnyddwyr bod 9 o bob 10 person yn ei chael hi’n anodd cwblhau gwasanaeth ar-lein. Maent yn aml angen ffonio neu ymweld â’u cyngor i wneud cais, neu roi gwybod, am rywbeth. Y rheswm pennaf am hyn yw bod y gwasanaeth wedi’i gynllunio mewn ffordd gymhleth ac mae’n rhy anodd i ddefnyddwyr gwblhau’r tasgau hyn ar-lein.

2. Nid yw pobl yn gwybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw

Mae ein hymchwil wedi dangos hefyd fod rhai pobl a theuluoedd yng Nghymru wedi ei chael yn anodd am fisoedd i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael iddynt. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn gwybod pa fuddion a gwasanaethau sydd ar gael.  

Os yw person yn cael trafferth neu’n chwilio am gymorth, byddai’n rhaid iddynt ddeall a ydynt yn gymwys ar gyfer pob budd-dal neu wasanaeth yn unigol ac yna wneud cais ar wahân i bob un gan ddefnyddio ffurflen ar-lein sy’n hir ac yn gymhleth.  

“Ni ddylai pobl orfod darllen tudalennau o wybodaeth cyn gwybod os oes gwasanaeth iddyn nhw. Yn aml, maen nhw’n teimlo nad yw’n werth eu hamser, a phan maen nhw wedi darllen yr holl fanylion, maen nhw’n debygol o fod yn fwy, ddim yn llai dryslyd” 

Cyfranogwr yn y gweithdy

Gyda’r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau cynghorau, mae angen i ni ystyried ar frys yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau ar-lein.

3. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd diogelu

Mae swyddogion llywodraeth leol oll yn cytuno bod dyletswydd ddiogelu ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cynlluniau lleol, cymunedol neu drydydd parti i amddiffyn eu trigolion.  

Roedd rhai swyddogion o’r farn na ddylai awdurdodau lleol wnud dim mwy na chyhoeddi a chefnogi’r buddion a’r gwasanaethau yr oedden nhw’n eu rheoli a’u darparu eu hunain. 

Roedd eraill yn teimlo y dylai’r cynghorau fod yn fwy rhagweithiol gan gefnogi pobl drwy rannu a chyfeirio gwasanaethau eraill a allai eu helpu.  

Roedd trafodaeth frwd am gydbwyso’r angen am wybodaeth i helpu pobl heb eu llethu gyda gormod o wybodaeth. 

Wedi cynnal rhai grwpiau llai a thrafodaethau pellach , roeddwm yn gytûn bod gan awdurdodau lleol rôl o ran rhannu’r holl wybodaeth a allai helpu pobl. Y rhesymau am hyn yw: 

  • bod pobl yn ymddiried yn eu hawdurdod lleol fel ffynhonnell cymorth a chefnogaeth  
  • bod hyrwyddo gwasanaethau lleol, cymunedol neu wasanaethau eraill yn ddyletswydd i ofalu am breswylwyr. Mae llawer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn agored i niwed ac maent mewn perygl o ddioddef oherwydd sgam leol neu ranbarthol 
  • dim ond awdurdod lleol all wybod am y gefnogaeth gymunedol sydd ar gael yn lleol 

Os hoffech weld mwy o fanylion am sesiynau a threfn y dydd, edrychwch ar ddec sleidiau’r gweithdy costau byw